Darluniau heriol yn codi cwestiynau amserol am y dyfodol sydd gan Gustavius Payne…

Mae tua hanner y darluniau sydd yn arddangosfa ddiweddaraf Gustavius Payne yn Oriel Ffin y Parc, Llanrwst wedi eu gwerthu. Yn ôl yr artist, mae hynny’n beth anarferol – ei fod yn gwerthu cynifer o luniau.

Maen nhw’n ddarluniau heriol, llawn ystyr, ac weithiau’n wleidyddol, yn trafod materion fel perthynas dyn â’i amgylchfyd, a gormes y dyn cyffredin gan rymoedd cwmnïau mawrion.