Fydd lefelau gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ar gyfer 2023-24 ddim yn ddigon i ddygymod â’r pwysau cyllidol yn sgil y pandemig, yn ôl adroddiad newydd.

Mae chwyddiant uchel wedi erydu gwerth cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru hyd at £800m yn 2023-24 a £600m yn 2024-25, er gwaethaf cyllid ychwanegol gan San Steffan yn Natganiad yr Hydref, yn ôl tîm Dadansoddi Cyllid Cymru.

Mae adroddiad yn dadansoddi’r opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wrth baratoi ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24 wedi’i lansio heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 5) gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi’r Gyllideb Ddrafft ar Ragfyr 13.

Yr adroddiad

Yn ogystal â nodi na fydd lefelau gwariant y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ddigon hyd yn oed ar ôl cyllid ychwanegol o Ddatganiad yr Hydref, mae’r adroddiad yn rhybuddio y gall cyflogau’r sector cyhoeddus ostwng 7% mewn termau real dros ddwy flynedd.

Bydd angen cynyddu gwariant ar gyflogau yng Nghymru £288m yn 2023-24 o’i gymharu â’r cynlluniau gwreiddiol, meddai’r adroddiad.

Mae’r adroddiad yn rhybuddio bod Llywodraeth Cymru’n “wynebu talcen caled” wrth gydbwyso costau uwch a’r risgiau o gyfyngu twf mewn cyflogau – o broblemau recriwtio a chadw, gweithredu diwydiannol, a dirywiad mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Ond gallai pwerau trethu datganoledig gael eu defnyddio i gynyddu maint cyllideb Cymru, meddai’r adroddiad Rhagolwg Cyllideb Cymru.

Byddai cynnydd o 1c ym mhob Cyfradd Treth Incwm Cymreig yn cynyddu refeniw gan 1.4% y flwyddyn nesaf, ac yn lleihau’r swm a gafodd ei golli o Gyllideb Cymru yn sgil chwyddiant o £600m i £340m ar gyfer 2024-25.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn nodi bod rhywfaint o newyddion da i lywodraethau lleol.

Gallai’r cyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol yn Lloegr olygu bod rhagor o gyllid ar gael yn setliad llywodraeth leol Cymru y flwyddyn nesaf, gyda chynnydd o £175m i £360m.