Ar ôl goroesi’r pandemig Covid-19 pan oedd pobol yn troi fwyfwy at gwrw crefft lleol i’w yfed gartref, mae Bragdy Mona yn un enghraifft o gwmni bach lleol sydd bellach yn ei chael hi’n anodd goroesi’r argyfwng costau byw.

Roedd gan y bragdy stondin yng Ngŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion dros y penwythnos (Rhagfyr 2-4), lle’r oedd cyfle i gwmnïau bach lleol arddangos ystod o gynnyrch Cymreig o safon – o fwyd a diod i anrhegion ar drothwy’r Nadolig.

Mae Gwyn Anwyl yn un o’r pedwar sy’n rhedeg busnes Bragdy Mona, oedd yn yr ŵyl am y tro cyntaf, ac fe fu’n siarad â golwg360 am yr anawsterau y bu’n rhaid i’r cwmni eu hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys marwolaeth eu sylfaenydd Huw Jones efo Covid-19 fis Chwefror y llynedd.

Ar y naill law, mae’n dweud bod pobol yn gwario mwy o bres ar gwrw i’w yfed gartref yn ystod y cyfnod clo, gan eu bod yn mynd i dafarnau llai.

“Yn y cyfnodau clo, roedd pobol yn prynu cwrw,” meddai.

“Roedd pobol yn prynu cwrw oddi ar y we, roedd o’n gallu cael ei anfon i siopau.

“Roedd gan bobol fwy o bres oherwydd doedd tafarnau ddim ar agor, roedd pobol eisiau prynu cwrw.

“Roedden nhw yn dod i’r bragdy i brynu cwrw.”

Sefydlu’r cwmni

Cafodd y cwmni ei sefydlu ar ôl i Huw Jones fod yn bragu cwrw gartref a mynd â’i gynnyrch i bartïon, ac roedd potensial i ddatblygu ar syniad y cwrw crefft sydd wedi dod o ddiwylliant yr Unol Daleithiau.

“Roedden ni’n licio un ac wedyn wnaeth o ddweud wnawn ni sefydlu busnes,” meddai Gwyn Anwyl.

“Wnaethom ni gyd (Rhys Jones, Rhys Evans, Tom Williams a Huw Anwyl) gyfrannu i helpu sefydlu’r busnes.

“Roedd ganddo’r syniad am y cwrw a’r math o gwrw roedd o eisiau gwneud.

“Mae’n cwrw ni ychydig yn wahanol i gwrw traddodiadol. Cwrw crefft rydym ni yn ei wneud.”

Effaith yr argyfwng costau byw

Cafodd Bragdy Mona ei sefydlu ymhell cyn i’r argyfwng costau byw daro, ac mae wedi teimlo sgil-effeithiau’r argyfwng yn ddiweddar.

Yn lle gwario arian ar gwrw crefft, mae pobol yn fwy tueddol bellach o wario eu harian ar gwrw cyffredin o’r archfarchnadoedd i arbed arian oherwydd yr argyfwng.

“Mae ein busnes yn sicr wedi dioddef oherwydd yr argyfwng costau byw,” meddai.

“Gan fod y cwrw ychydig yn ddrytach na beth fysa chdi’n cael mewn siop draddodiadol dydy pobol ddim yn mynd i wario gymaint ar ein cwrw.

“Dydyn ni ddim yn gallu cystadlu efo’r cwrw ti’n prynu yn y siop o ran prisiau.

“Rŵan, dydy pobol ddim yn prynu cwrw crefft oherwydd bod o ychydig yn ddrytach.

“Maen nhw wedi mynd nôl i brynu’r rheini maen nhw’n gallu’u prynu yn yr archfarchnad, bocs am £20.

“Nid ydym yn agos i’r prisiau yna oherwydd y math o gwrw rydym yn eu gwneud a’r cynhwysion rydym yn eu prynu.

“Mae cwrw crefft ychydig yn anoddach i’w wneud na Carling, Carlsberg neu Fosters.”

Manteision gwyliau bwyd a diod

“Mae busnes wedi mynd yn dda iawn,” meddai Huw Anwyl wrth edrych yn ôl ar yr Ŵyl Fwyd a Chrefft ym Mhortmeirion.

“I feddwl bod hi’n ddydd Sul, roedd o’n eithaf da.

“Roedd llawer o bobol yn galw heibio, a llawer o bobol yn canmol y dyluniadau ar y caniau.

“Mae’ o’n dda iawn i feddwl mai hwn ydy’r tro cyntaf i ni fod yma.

“Mae o wedi bod werth e, deg math o wahanol gwrw ar gael – o lager i IPA, cwrw golau a hyd yn oed cwrw sesiwn, a chwrw pwmp sy’n gwrw hen ddynion!”