Mae Mebyon Kernow yn dweud ei bod hi’n “galonogol” fod dros 100,000 o bobol wedi nodi eu bod nhw’n Gernywiaid yng Nghyfrifiad 2021.
Fodd bynnag, maen nhw’n dweud bod angen cynnwys bocs ‘Cernywaidd’ ar gyfer y cyfrifiad nesaf gan fod nifer y bobol sy’n cyfrif eu hunain yn Gernywiaid yn uwch, fwy na thebyg, mewn gwirionedd.
Yn ôl datganiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae “ychydig o dan 100,000” o bobol yn ystyried eu hunain yn Gernywiaid.
Fodd bynnag, doedd y ffigwr hwnnw o 99,754 ddim yn cyfrif pawb oedd wedi nodi eu bod nhw’n Gernywiaid gan ei fod ond yn cyfeirio at unigolion wnaeth ddisgrifio eu hunain fel ‘Cernywaidd yn unig’ neu ‘Gernywaidd a Phrydeinig’.
Doedd y cyfanswm ddim yn cynnwys pobol sydd yn ystyried eu hunain yn Gernywaidd ac yn perthyn i genedl arall yn y Deyrnas Unedig.
Roedd y datganiad gwreiddiol yn nodi:
Cernywaidd yn unig yng Nghernyw: 79,938
Cernywaidd a Phrydeinig yng Nghernyw: 9,032
Cernywaidd yn unig yng Nghymru a Lloegr: 9,146
Cernywaidd a Phrydeinig yng Nghymru a Lloegr: 1,638
Fodd bynnag, mae data ychwanegol wedi cael ei rannu heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 5) sy’n dangos bod 9,105 o bobol ychwanegol yn ystyried eu hunain yn Gernywaidd ynghyd â Chymraeg, Saesneg, Albanaidd neu Wyddeleg.
Fe wnaeth cyfanswm o 108,860 o bobol sgrifennu Cernywaidd ar y Cyfrifiad, felly, ac mae 96,380 ohonyn nhw’n byw yng Nghernyw.
Golyga hynny fod 17% o drigolion Cernyw yn ystyried eu bod nhw’n Gernywaidd o ran eu cenedligrwydd.
‘Datganiad pwerus’
Wrth ymateb ar ran Mebyon Kernow, dywed y Cynghorydd Dick Cole, arweinydd y blaid, ei fod yn galonnog fod 108,860 o bobol wedi gwneud y penderfyniad ymwybodol i sgrifennu Cernywaidd ar Gyfrifiad 2021.
“Mae hyn yn ddatganiad pwerus o gryfder ein hunaniaeth genedlaethol,” meddai,
“Fodd bynnag, mae’n cynrychioli tan-gyfrif anferth o ran pobol Gernywaidd, oherwydd dydyn ni ddim yn cael ticio bocs gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Rhaid i hyn gryfhau’n penderfyniad i bwyso ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gynnwys bocs Cernywaidd yn y cyfrifiad nesaf, ac ar fwy o frys i herio pob adran ac asiantaeth yn y Llywodraeth i gynnwys ‘Cernywaidd’ fel opsiwn hunaniaeth ar bob ffurflen swyddogol.”