Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am adolygiad i ofal cymdeithasol plant yng Nghymru, gan ddweud bod “plant Cymru yn haeddu ein cefnogaeth”.

Marwolaeth Logan Mwangi fis Gorffennaf y llynedd sydd wedi sbarduno’r alwad, gyda’r blaid yn dweud bod angen adolygiad er mwyn sicrhau nad yw rhywbeth tebyg yn digwydd yn y dyfodol.

Cafwyd hyd i gorff y bachgen pump oed yn Afon Ogwr ger ei gartref yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr fis Gorffennaf y llynedd.

Cafodd ei fam a’i lystad, a llanc yn ei arddegau, eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd i garchar am oes am lofruddio’r bachgen bach ar Fehefin 30.

‘Cefnogi plant Cymru’

“Dim ond gwaethygu’r sefyllfa bresennol mae’r pandemig wedi ei wneud, ac fe amlinellodd yr Adolygiad Diogelu i achos Logan Mwangi nifer o argymhellion wedi’u hanelu at Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ystyried comisiynu adolygiad ledled Cymru,” meddai Mark Isherwood, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ogledd Cymru.

“Fodd bynnag, gwrthododd y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Julie Morgan, yn 2019 gomisiynu adolygiad ar y cynnydd yn y plant yng Nghymru sydd mewn gofal.

“Yn y cyfamser, mae ei chynllun i leihau nifer y plant mewn gofal drwy osod targedau i awdurdodau lleol wedi methu oherwydd nad oedd yna fesurau digonol mewn lle er mwyn cyflawni’r targedau.

“Does gennym ni chwaith ddim adolygiad annibynnol i ddarganfod yr achosion sylfaenol.

“Fe ddylai achos trasig Logan Mwangi, gafodd ei fethu gan gymaint o asiantaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fod yn agoriad llygaid i wasanaethau plant yng Nghymru.

“Er bod y Dirprwy Weinidog wedi addo derbyn canfyddiadau’r adolygiad i farwolaeth Logan, ni fydd hyn yn ymchwilio’n ddigonol i fethiannau cyson a darparu atebion clir i gefnogi plant Cymru yn y dyfodol.

“Byddai adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant yn cyflawni hyn, ac mae plant Cymru yn haeddu ein cefnogaeth.

“Felly, gadewch i ni bleidleisio o blaid adolygiad annibynnol llawn a didwyll i ofal plant yng Nghymru.”