Bydd ffermydd Cymru’n derbyn cyfran o £62.5m o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2022, wrth i daliadau llawn neu daliadau olaf gael eu talu yfory (dydd Gwener, Rhagfyr 9).

Yn ôl Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, mae taliadau’n cael eu rhoi i fwy na 14,400 o fusnesau ffermio ledled Cymru, sef 90% o’r rhai sydd wedi hawlio arian.

Mae hyn yn ychwanegol at y taliadau ymlaen llaw gwerth £161m o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol a wnaed i 97% o’r rhai fu’n hawlio ym mis Hydref.

Dyma’r ail flwyddyn i Daliadau Gwledig Cymru (RPW) roi taliadau ymlaen llaw ac yn ddiofyn ym mis Hydref, ar ôl symleiddio gofynion Cynllun y Taliad Sylfaenol.

“Sicrwydd ariannol” i fusnesau ffermio

“Rwy’n falch ein bod eto’n gwneud nifer uchel iawn o daliadau o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol i ffermydd ledled Cymru ar ddechrau’r cyfnod talu,” meddai Lesley Griffiths.

“Rydym yn byw mewn cyfnod economaidd heriol ac mae’r taliadau hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ariannol i fusnesau ffermio.

“Rwyf am ddiolch i’r sector ac i Daliadau Gwledig Cymru, sydd unwaith eto wedi cydweithio’n agos i ddarparu’r nifer rhagorol o daliadau.

“Mae’r gwaith yn parhau i sicrhau bod hawliadau 2022 sy’n weddill yn cael eu prosesu cyn gynted â phosib.

“Rwy’n disgwyl i bob achos ac eithrio’r rhai mwyaf cymhleth gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mehefin 2023.”