Mae’r Cynghorydd Beca Brown, sy’n cynrychioli ward Llanrug ac sy’n Aelod Cabinet dros Addysg yng Ngwynedd, wedi sefydlu cynllun i sicrhau bod nwyddau mislif ar gael yn yr Adran Addysg yng Nghaernarfon er mwyn “normaleiddio” mislif.
Mae hi’n annog unigolion neu grwpiau cymunedol sydd eisiau’r nwyddau i gysylltu â hi neu’r Adran Addysg.
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig Grant Urddas Mislif, a’i bwrpas yw rhoi mynediad cyfartal i bobol sydd angen nwyddau mislif.
Mae’n cael ei weinyddu o’r Adran Addysg yng Ngwynedd.
“Os mae gen ti ddwy neu dair o ferched yn y teulu a ti’n ddynes, mae llawer o gostau nwyddau yn yr un cartref,” meddai Beca Brown wrth golwg360.
“Mae anghyfartaledd ac mae’r nwyddau yma’n ddrud.
“Rydym yn trio galluogi unrhyw un sydd angen nhw i gael nhw.
“Rwy’n rhoi nhw allan fel rhan o’n cynllun bwyd yn Llanrug a Chwm y Glo trwy’r Cyngor Cymuned.
“Rhoddais y neges ar Facebook, a chysylltodd pobol â fi’n syth bin, rhai ohonynt yn rhan o’n cynllun bwyd yn barod, a phobol eraill.
“Mae o’n no questions asked.
“Rydym un ai’n dod â’r nwyddau atoch chi neu gallwch bigo nhw fyny yn y ganolfan yng Nghaernarfon.
“Maen nhw’n ecogyfeillgar, sydd yn egwyddor bwysig.
“Rydym yn trio normaleiddio bod hwn yn rywbeth naturiol a ddim i gael cywilydd ohono.”
Cywilydd gofyn am nwyddau mislif yn yr ysgol
Newid mawr yw dechrau mislif i unrhyw ferch ifanc, ac mae rhai yn teimlo cywilydd.
Mae methu fforddio nwyddau mislif yn rywbeth sy’n ychwanegu at hynny.
“Mae’r gair urddas yn bwysig oherwydd, rhywbeth roedden ni’n ffeindio yn yr adran oedd bod plant a phobol ifanc yn mynd adref i nôl nwyddau achos bod ganddyn nhw ormod o gywilydd gofyn yn yr ysgol,” meddai Beca Brown wedyn.
“Dydyn nhw ddim yn dod ’nôl i’r ysgol ar ôl ’nôl y nwyddau.
“Mae rhai ysgolion efo cwpwrdd pwrpasol neu maen nhw’n eu rhoi nhw mewn bagiau, toiledau neu’n eu hongian nhw ar gefn drysau.
“Mae hyn er mwyn i’r plant a phobol ifanc gael gwybod ble mae’r nwyddau a mynd i nôl nhw’n ddistaw bach.
“Roedd ychydig o broblem o’r blaen efo pobol ddim eisiau gofyn amdanyn nhw oherwydd cywilydd.
“Rydym yn trio normaleiddio hyn fel rhywbeth mae pobol ifanc ei angen.
“Oherwydd bod plant a phobol ifanc yn dechrau eu mislif ychydig cynt erbyn hyn, mae yna docynnau sydd ar gael ar draws y sir sydd yn rhoi amrywiaeth o nwyddau er mwyn i bobol drio nhw a gweld beth sy’n siwtio nhw.
“Mae ysgolion yn eu cael nhw trwy grant gwahanol i hwn.”
Yr argyfwng costau byw a nwyddau mislif
Yn yr hinsawdd sydd ohoni efo’r argyfwng costau byw, mae pob agwedd ar fywyd yn gostus.
Yn ychwanegol i hyn, mae merched yn gorfod talu am nwyddau mislif.
“Pan ti’n gorfod gwneud i dy bres ymestyn yn bellach oherwydd yr argyfwng costau byw, ti’n sôn am dy fwyd, biliau trydan, biliau ynni,” meddai Beca Brown.
“Mae morgeisi pobol wedi codi.
“Mae o’n bwysau ychwanegol oherwydd mae’r nwyddau yma yn eithaf drud.
“Mae o’n gost ychwanegol pan mae pobol angen talu am bethau elfennol fel gwres a bwyd.
“Roeddwn yn meddwl y byddai’n rywbeth y bydden yn gallu gwneud i helpu ar amser anodd.
“Mae biliau ynni am fynd fyny dros y gaeaf.
“Mae’r Nadolig yn dod ac mae pobol angen ffeindio arian i brynu presantau.
“Rwy’n meddwl bod peidio gallu fforddio nwyddau mislif yn effeithio ar bobol sydd ar gyflog llai, mwy.
“Rydym yn mynd ’nôl at y gair urddas.
“Os ti’n gorfod defnyddio rhywbeth sydd ddim wedi ei fwriadu fel nwydd mislif ti’n teimlo’n llai hyderus.
“Hwyrach bod ti’n llai tebygol o fynd allan, os ti’n meddwl am bobol ifanc sydd eisiau gwneud ymarfer corff, efallai nofio.
“Mae o am bobol yn teimlo’n hyderus bod ganddyn nhw’r nwyddau yma.
“Mae’n bwysig bo nhw ddim yn meddwl ble maen nhw am gael y nwyddau yma os dydyn nhw ddim yn y cartref.
“Mae mislif yn gallu taro rhywun yn ddirybudd ac efallai bod hynny ar ddiwedd y mis cyflog.
“Mae am effeithio ar y ffordd ti’n byw dy fywyd oherwydd na elli di wneud y gweithgareddau roeddet yn meddwl gwneud.
“Mae o’n gallu effeithio ar fywydau pobol.”
- Mae nwyddau mislif ar gael ar draws y sir mewn llyfrgelloedd a chanolfannau byw yn iach.