Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ffermwr 42 oed o Geredigion y cafwyd hyd i’w gorff ddechrau’r wythnos hon.
Roedd Dyfed Evans yn 42 oed ac yn dod o Dalybont.
Wrth dalu teyrnged iddo, dywed ei deulu ei fod yn “fab a brawd annwyl a chariadus” ac y byddan nhw’n “trysori pob atgof ohono yn ddiolchgar, a hynny gyda gwên”.
“Roedd Dyfed, fel ei fam Beryl, yn ffarmwr a bridiwr wrth reddf a’r ddau yn uchel eu parch ym myd y defaid a’r gwartheg, ac yn arbennig am eu Defaid Mynydd Cymreig a’u Defaid Penfrith,” meddai’r teulu.
“Y fferm yng Nglanrafon a’r anifeiliaid oedd canolbwynt eu byd, a’u nod bob amser oedd magu stoc o’r safon uchaf a ni fu neb yn fwy ymroddedig nac yn fwy gofalgar yn eu gwaith.
“Roedd Dyfed hefyd wrth ei fodd gyda chwaraeon o bob math ac yn dilyn yn frwdfrydig ei hoff dimau ac unigolion mewn meysydd amrywiol yn cynnwys pêl droed, athletau a snwcer.”
Mae’r teulu’n “diolch i bawb, yn deulu, cymdogion, ffrindiau ac asiantaethau amrywiol am bob cefnogaeth a charedigrwydd yn ystod y dyddiau dirdynnol diwethaf wrth i ni geisio’n gorau i ddelio gyda cholli gwraig a mam a mab a brawd arbennig iawn”.
“Dymunwn nawr gael amser i alaru a’r llonydd angenrheidiol i wneud hynny’n dawel,” meddai’r teulu.
Pentref a chymuned “wedi’u brawychu”
“Mae pentre Talybont ac ardal gogledd Ceredigion wedi eu brawychu gan y newyddion bod Dyfed Evans wedi marw dros y penwythnos a hynny mewn amgylchiadau mor drist,” meddai Enoc Jenkins, cymydog y teulu.
“Roedd e’n fridiwr defaid o fri, ac ynghyd â’i fam, wedi gweithio yn ddyfal i gynnal a gwella diadell yr oedd y teulu cyfan yn falch iawn ohoni.
“Dyn tawel iawn oedd Dyfed, ond gallai oresgyn ei swildod pan fyddai’n dod i drafod diadelloedd, hyrddod a hwsmonaeth yn gyffredinol, a bu’n feirniad mewn nifer o sioeau gan gynnwys y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
“Byddwn ni yn cofio amdano fel dyn caredig, cymydog gofalus, a mab a brawd annwyl.
“Ein gobaith ni nawr, fel ardal, yw bod o gefn i’r teulu ar adeg mor ofnadwy o drist.”