Daeth yr adeg o’r flwyddyn pan ydych chi efallai’n dechrau mynd i ychydig o banig am anrhegion Nadolig.

Gall anrhegion i’r rhai bychain fod yn anodd… Efallai bod ganddyn nhw bob tegan dan haul yn barod? Neu ydyn nhw’n diflasu ar degan ar ôl dim ond ychydig oriau?

Mae golwg360 yma i helpu gyda rhestr o anrhegion posib sy’n para trwy gydol y flwyddyn.


1. Tocyn blwyddyn i Folly Farm

Rhinoseros Folly Farm
Rhinoseros yn Folly Farm

Wedi’i lleoli ychydig dros chwe milltir o Ddinbych-y-pysgod, mae gan Folly Farm 120 erw o dir, dros 750 o anifeiliaid yn

Dim ond mwy na dwywaith fydd angen i chi ymweld â Folly Farm mewn 12 mis i arbed arian gyda thocyn blwyddyn.

Maen nhw’n ddilys am 12 mis o’r dyddiad fyddwch chi’n eu prynu.

Os ydych chi’n eu prynu ar-lein, maen nhw hefyd yn rhoi mis i chi ddychwelyd eich tocyn fel na fydd eich 12 mis yn dechrau nes bod y daleb wedi’i phrynu eto hyd at fis ar ôl ei phrynu.

Pris? Plentyn (3-15 oed) £50, plentyn bach (2 oed) £35


2. Anrheg Nadolig Wcw

Hysbys Tansgrifio WCW Rhagfyr 2022

Ydych chi’n nabod plentyn rhwng tair a saith oed sy’n hoffi posau a chomics?

Wel, mae gyda ni’r syniad perffaith ar eich cyfer.

Prynwch danysgrifiad i gomic WCW a’i ffrindiau fel anrheg, ac fe fydd y plentyn lwcus yn cael…

  • Het Wcw
  • Cerdyn ’Dolig wedi’i sgwennu gan Wcw
  • Rhifyn Nadolig am ddim
  • Naw rhifyn y flwyddyn o’r cylchgrawn

Ond peidiwch â’i gadael hi tan y funud olaf… dim ond tan Ragfyr 15 mae’r ddêl arbennig yma ar gael.

Pris? £25


3. Calendr Helo Heddiw

Llun: Gwefan Adra

 

Dyma adnodd addysgol i ddysgu plant am ddyddiau, misoedd, y tywydd a’r tymhorau yn y Gymraeg.

Gall plant osod y misoedd yn eu trefn gywir, diweddaru’r diwrnod a’r dyddiad bob dydd a chofnodi’r tywydd.

Ar gael o Adra.

Pris? £19.99


4. Parc y Sipsi

Llun: Facebook Parc y Sipsi

Atyniad poblogaidd arall yn y gogledd yw Parc y Sipsi ym mhentref Bontnewydd ger Caernarfon.

Ar agor o Fawrth hyd at ddiwedd Medi, mae’r parc yn cynnig amrywiaeth gan gynnwys drysfa, rheilffyrdd bach, mannau chwarae, trampolinau a llwyth o gemau.

Pris? Plentyn bach £33, plentyn £35


5. Aelodaeth 2022-24 o’r Wal Goch

Byddwch yn rhan o ddyfodol pêl-droed Cymru drwy ymuno â’r Wal Goch.

Mae’r aelodaeth yn cynnig buddion unigryw gan gynnwys pecyn clwb i gefnogwyr y Wal Goch, mynediad i docynnau cartref ac oddi cartref Cymru, gostyngiadau cynnyrch a mwy.

Mae’r pecyn yn cynnwys bathodyn pin, patsh ‘sew on’, band arddwrn a wnaed mewn cydweithrediad â Gofal Canser Tenovus, a set o sticeri.

Pris? £10