Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb i ddarlun brawychus o’r sefyllfa yn uned frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, gan ddweud mai “dyma sut mae argyfwng costau poen yn edrych”.
Mae adroddiadau gan BBC Cymru yn rhoi cip o’r sefyllfa, sy’n cynnwys y ffaith fod 750,000 o bobol yng Nghymru ar restr aros y Gwasanaeth Iechyd, bod amserau aros am ambiwlans wedi cyrraedd eu lefel isaf erioed, a bod yr aros am driniaeth mewn unedau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru ymhlith y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig.
Yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, roedd cleifion yn cael eu trin mewn cadeiriau, roedd staff yn eu dagrau ac roedd yn rhaid aros 18 awr i drosglwyddo claf o ambiwlans i’r ysbyty.
Mae staff yn teimlo bod y sefyllfa’n “anniogel”, gyda nifer y cleifion sydd yn aros am driniaeth yn sylweddol uwch na nifer y trolïau ar gael.
Mae rhesi hir o ambiwlansys y tu allan i’r ysbyty, yn methu trosglwyddo cleifion i ofal yr ysbyty gan greu oedi i gleifion eraill sy’n aros am ymatebion i’w galwadau.
‘Straeon brawychus’
“Yn drist iawn, mae’r straeon brawychus yn dod yn rhan o fywyd beunyddiol o fewn y Gwasanaeth Iechyd sy’n cael ei redeg gan Lafur, gyda staff a chleifion yn teimlo’n hollol ddiymadferth wrth geisio gwella’r sefyllfa,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Dyma sut mae argyfwng costau poen yn edrych – nid dim ond y rheiny fel y 57,000 o bobol sy’n aros ers dros ddwy flynedd am driniaeth – ond y rhai sy’n cael eu gadael ar ôl ar drolïau yng nghoridorau’r ysbyty ac yn sownd mewn ambiwlansys yn methu mynd i unman.
“A yw’n syndod y bydd nyrsys a gweithwyr ambiwlans yn streicio dros y misoedd i ddod gan wybod fod yn rhaid iddyn nhw ddod i’r gwaith lle mae’r system yn y cyflwr yma?
“Maen nhw’n poeni nad ydyn nhw’n gallu sicrhau diogelwch cleifion o’r herwydd.
“Rydyn ni’n parhau i bwyso ar y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd i roi ein Cynllun Mynediad at Feddygon Teulu, ein Bwndel Technoleg y Gwasanaeth Iechyd, canolfannau llawfeddygol ac ystafelloedd rhyfel y gaeaf yn eu lle – ond byddai’n well ganddyn nhw roi’r bai ar bawb arall am sut maen nhw’n rhedeg y gwasanaeth iechyd sy’n perfformio waethaf ym Mhrydain.”