Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi cael ei feirniadu ar ôl iddo wneud yr hyn sy’n cael ei alw’n sylwadau “adweithiol” am addysg Gymraeg i bawb.

Daw hyn ar ôl iddo ddweud nad yw e am weld pob plentyn yng Nghymru yn cael addysg Gymraeg yn y dyfodol.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae hynny’n awgrymu ei fod yn cefnogi’r gyfundrefn bresennol, lle mae’r rhan fwyaf o bobol ifanc Cymru’n gadael yr ysgol heb fod yn hyderus yn y Gymraeg.

Mae ffigurau’r Cyfrifiad, gafodd eu cyhoeddi yr wythnos hon, yn dangos gostyngiad bach yn nifer y siaradwyr Cymraeg – bellach mae 538,000 neu 17.8% o’r boblogaeth yn medru’r iaith, er mai targed y Llywodraeth yw cynyddu’r nifer i filiwn erbyn 2050.

‘Rhyfeddu’

“Rydyn ni’n rhyfeddu bod gwleidydd fel Mark Drakeford sy’n credu mewn cyfiawnder cymdeithasol yn dewis anwybyddu annhegwch y sefyllfa bresennol ac ymwrthod â’r alwad resymol i roi addysg cyfrwng Gymraeg i bob plentyn dros amser,” meddai Catrin Dafydd o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Fel y saif pethau, mae 80% o’n pobol ifanc yn cael eu hamddifadu o’r Gymraeg gan y gyfundrefn addysg.

“Drwy ei sylwadau adweithiol yn y Siambr, mae’n amlwg bod y Prif Weinidog yn dewis allgáu mwyafrif ein pobol ifanc o’r Gymraeg am genedlaethau i ddod, yn hytrach nag agor y drysau i bawb gael mynediad at yr iaith.

“Deddf i’r rhai sydd wedi’u gadael ar ôl ddylai’r Ddeddf Addysg Gymraeg fod, deddf fydd yn sicrhau y bydd gan bob person ifanc sy’n gadael yr ysgol ddewis go iawn o ran pa ieithoedd maen nhw am fyw eu bywydau drwyddyn nhw.

“Fe ddylai penderfyniadau fel hyn gael eu gwneud o bersbectif plentyn-ganolog, ond mae sylwadau’r Prif Weinidog yn dangos ei fod yn fodlon blocio buddiannau cenedlaethau’r dyfodol.

“O ystyried ffigurau’r Cyfrifiad ddydd Mawrth, mae’r sylwadau yma’n codi cwestiynau, a ydy Llywodraeth Mark Drakeford o ddifri am darged y miliwn o gwbl.

“Dydy gosod targed ddim yn mynd i gyflawni dim heb weithredu i sicrhau twf.

“Mae miloedd o blant yn colli allan ar y cyfle i ddod yn rhugl yn y Gymraeg ar hyn o bryd, ac rydyn ni’n gwybod na fydd y sefyllfa’n newid dros nos.

“Ond mae nod hirdymor o roi pob ysgol ar y llwybr tuag at addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050 yn alwad gwbwl resymol.

“Mae’n ymddangos o’i sylwadau bod y Prif Weinidog yn dewis atal 80% o blant Cymru rhag dod i siarad Cymraeg yn rhugl a hyderus.”

 

Dyfodol i'r Iaith

Arwyddion positif yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad wedi eu hanwybyddu, yn ôl Dyfodol i’r Iaith

“Yn y pen draw mae mwynhau defnyddio’r Gymraeg yn bersonol ac yn gymunedol yn allweddol, ac mae angen rhoi sylw i’r negeseuon cadarnhaol”

Gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin ‘yn frawychus ac yn achos pryder mawr’

Bu gostyngiad o 5,210 neu 4% o boblogaeth y Sir oedd yn siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021

‘Gweithredwch’: Cymdeithas yr Iaith yn anfon neges glir i’r Llywodraeth

Y mudiad iaith yn codi posteri ar adeiladau’r Llywodraeth ar ôl cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad ddoe

Miliwn o Siaradwyr yn bellach i ffwrdd heb “weithredu radical”, meddai Plaid

Llywodraeth Cymru wedi mynegi siom am ganlyniadau’r Cyfrifiad sy’n dangos gostyngiad yn nifer y bobol sy’n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg

‘Gwendidau’r Cyfrifiad’ o bosib i gyfrif am y gostyngiad yn nifer y plant a phobol ifanc sy’n siarad Cymraeg

Mae’r Athro Enlli Thomas o’r farn fod danamcangyfrif mawr yn y data o beth sy’n digwydd ar lawr gwlad oherwydd geiriad cwestiynau’r Cyfrifiad

Cyfrifiad: Canran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng i 17.8%

Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod addysg Gymraeg i bawb yn “hanfodol”