Mae 310 o bobol wedi arwyddo deiseb sy’n galw ar y Llywodraeth i gynnig gwersi Cymraeg am ddim i bawb o bob oed yng Nghymru.
Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno gan y cynghorydd sir yng Ngwynedd Elfed Wyn ap Elwyn sy’n dweud “bod eisoes gwersi am ddim i bobl rhwng 16 a 25 ac mae’n annheg nad yw ar gael i bobol o bob oed.”
Dywedodd Elfed Wyn ap Elwyn: “Os ydym ni am gyrraedd miliwn o siaradwyr, yna mae angen sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ddysgu’r iaith”
Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig cyfleoedd i bobol ddysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim.
Mae dweud bod angen i’r Llywodraeth gynnig cwrs penodol.
“Rŵan ydy’r amser i wneud hyn,” meddai.
“Os mae Llywodraeth yn benderfynol bod ni ddim yn cyrraedd 2031 a gweld bod ffigyrau siaradwyr Cymraeg wedi gostwng eto.
“Mae angen i’r Llywodraeth fod yn radical ofnadwy fel ein bod ni ddim yn cyrraedd 2031 a gweld bod ffigyrau siaradwyr Cymraeg wedi gostwng eto.
“Pe bai hyn wedi cael ei wneud pan sefydlwyd y Cynulliad yn y 90au byddan ni mewn lle gwahanol iawn rŵan.
“Nid wyf yn meddwl eu bod nhw wedi bod yn radical dros y 20 mlynedd diwethaf. Credaf ei bod wedi bod yn wanllyd iawn pan mae hi’n dod at y Gymraeg.
“Roedd archwiliad wedi cael ei wneud ychydig flynyddoedd yn ôl oedd yn dangos bod 86% o bobl yng Nghymru yn gefnogol o’r iaith.
“Roedd 62% efo diddordeb dysgu’r iaith. Rwy’n ei weld yn annheg bod y bobol yma’n colli’r cyfle i ddysgu’r iaith. Mae angen trefn a chwrs penodol yn cael ei wneud gan y Llywodraeth.
“Mae Catalonia yn wlad ddiddorol ble mae pobl yn gallu cael gwersi Catalaneg drwy’r Llywodraeth.”
Cenedl heb iaith, cenedl heb galon
Yn ôl Elfed Wyn ap Elwyn, mae dysgu Cymraeg yn bwysig oherwydd ei fod yn rhan o falchder ein cenedl, yn bwysig yn ddiwylliedig a chymdeithasol ac yn helpu wrth geisio am swyddi.
“Mae dysgu Cymraeg yn bwysig oherwydd ei fod yn rhan o’r syniad yna ohonom ni fel cenedl,” meddai.
“Bysa Cymru ddim yn Gymru heb yr iaith. Mae’r iaith yn rhywbeth sy’n crisialu’r hunaniaeth Gymreig. Mae wastad wedi bod yn symbol o Gymreictod.
“Mae yna lawer o swyddi yn dod lle mae siarad Cymraeg yn bwysig. Rwy’n meddwl bod o’n cynyddu’r set o sgiliau sydd gan rywun.”