“Does dim osgoi’r ffaith fod y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin yn frawychus”, yn ôl Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg y Cyngor Sir.

Datgelodd data’r cyfrifiad ar gyfer Sir Gaerfyrddin fod y sir yn gartref i 72,838 o siaradwyr Cymraeg neu 39.9% o gyfanswm y boblogaeth dair oed neu’n hyn.

Mae’r ffigwr hwn yn ostyngiad o 5,210 neu 4% ers y Cyfrifiad diwethaf yn 2011 a dyma’r gostyngiad mwyaf fel pwynt canran o blith holl awdurdodau lleol Cymru.

Yn 2001 a 2011, Sir Gaerfyrddin oedd â’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg o bob awdurdod lleol yng Nghymru, gydag 84,196 o siaradwyr Cymraeg yn 2001 a 78,048 o siaradwyr Cymraeg yn 2011.

Mae’r ffigyrau yn golygu bod gan y sir bellach y nifer ail uchaf o siaradwyr Cymraeg o bob awdurdod lleol yng Nghymru.

Grŵp oedran

Bu gostyngiad o 510 o bobl neu 2.6% yn y nifer rhwng 3-15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin.

Mae gostyngiadau hefyd i’w gweld yn y categorïau oedran 16-64 a 65+, er ar lefelau mwy sylweddol na’r grŵp oedran iau.

Mae’r dirywiad yn y rheiny sydd dros 65 oed ac sy’n gallu siarad Cymraeg yn cyfateb i ostyngiad o 8.7%.

“Brawychus”

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies: “Does dim osgoi’r ffaith fod y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin yn frawychus ac yn achos pryder mawr.

“Mae yna lawer o ffactorau a allai esbonio’r dirywiad hwn.

“Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid drwy’r Fforwm Iaith Sirol i ddadansoddi’r canlyniadau hyn o’r cyfrifiad diweddaraf er mwyn sicrhau ein bod yn deall yn iawn y ffactorau sy’n cyfrannu at y canfyddiadau siomedig hyn a’n bod yn ymateb iddynt.”

Cyfrifiad: Canran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng i 17.8%

Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod addysg Gymraeg i bawb yn “hanfodol”

‘Gwendidau’r Cyfrifiad’ o bosib i gyfrif am y gostyngiad yn nifer y plant a phobol ifanc sy’n siarad Cymraeg

Mae’r Athro Enlli Thomas o’r farn fod danamcangyfrif mawr yn y data o beth sy’n digwydd ar lawr gwlad oherwydd geiriad cwestiynau’r Cyfrifiad