Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dod i’r casgliad fod bron hanner y bobl sy’n gweithio o adref yn profi llesiant gwaeth a theimladau o unigrwydd.

Daw hynny er gwaethaf y ffaith y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi parhau i weithio gartref.

Bu’r arolwg, a gynhaliwyd rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Ionawr 2021 yn ystod ail don pandemig y Coronafeirws, yn holi oedolion mewn cyflogaeth yng Nghymru am effaith gweithio gartref ar eu hiechyd a’u llesiant.

Gofynnodd yr arolwg i’r ymatebwyr ystyried eu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

Roedd tri o bob pump o ymatebwyr eisiau treulio o leiaf rhywfaint neu’r cyfan o’u hwythnos waith yn gweithio gartref.

Roedd un o bob pump am osgoi gweithio gartref yn gyfan gwbl.

O’r rhai a allai weithio gartref yn ystod y pandemig, nododd 45% ohonynt lesiant meddyliol gwaeth, tra bod 48% wedi profi teimladau o unigrwydd.

Ymhlith y grwpiau a oedd yn fwy tebygol o roi gwybod am yr effeithiau hyn roedd:

  • Gweithwyr iau yn eu 30au
  • Merched
  • Y rhai a oedd yn byw ar eu pen eu hunain
  • Y rhai â llesiant meddwl gwaeth
  • Y rhai sy’n byw gyda chyflyrau cyfyngol sy’n bodoli eisoes

Effeithiau cymysg

Roedd effeithiau gweithio gartref ar ddeiet ac ymarfer corff yn fwy cymysg.

Er bod pedwar o bob 10 wedi nodi gostyngiad yn eu lefelau ymarfer corff, nododd tri o bob 10 welliant.

Yn yr un modd, nododd tua un o bob tri ddeiet gwaeth, er bod un o bob pedwar wedi nodi gwelliant.

Roedd dynion, y rhai oedd yn byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, y rhai mewn cyflogaeth dros dro a’r rhai ag iechyd meddwl a chorfforol gwaeth, i gyd yn llai tebygol o nodi eu bod yn gallu gweithio gartref yn ystod y cyfnod hwn.

“Cefnogi cyflogwyr a gweithwyr”

“Er i rai nodi effaith negyddol ar iechyd wrth weithio gartref yn ystod y pandemig, i raddau helaeth roedd pobl am barhau i weithio o bell i ryw raddau yn y dyfodol,” meddai’r Athro Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Mae astudiaethau eraill wedi dangos, ymhlith y rhai sy’n parhau i weithio gartref, mae unigrwydd wedi gwella ond mae lefelau trallod seicolegol yn parhau ychydig yn uwch.

“Mae cefnogi cyflogwyr a gweithwyr i wireddu manteision gweithio gartref ochr yn ochr â lleihau’r niwed posibl – yn benodol i iechyd meddwl, yn bwysig.”

‘Manteision ac anfanteision’

Ychwanegodd Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ac arweinydd rhaglenni iechyd a gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r canfyddiadau hyn yn ailadrodd yr hyn y mae cyflogwyr yn ei ddweud wrthym o ddydd i ddydd.

“Maent yn cydnabod y manteision a gyflwynwyd yn sgil ffyrdd mwy hyblyg o weithio dros y ddwy i dair blynedd diwethaf, ond maent hefyd yn cydnabod bod anfanteision i weithio o bell sydd angen eu hystyried a’u trin yn ofalus.

“Roedd ymchwil cyflogwyr a gynhaliwyd gennym ar anterth y pandemig wedi tynnu sylw at bryderon mawr ynghylch llesiant meddwl gweithwyr, ochr yn ochr â chanfyddiadau rheolwyr ynghylch effaith ymddygiad llonydd, bwyta afiach ac yfed alcohol ar iechyd corfforol.

“Rydym yn parhau i weithio gyda chyflogwyr yng Nghymru i’w cynorthwyo i gefnogi eu gweithlu ym mhob agwedd ar iechyd a llesiant.”