Mae 1,750 o bobl wedi arwyddo deiseb sy’n galw ar y Llywodraeth i ddiogelu Sycharth, cartref Owain Glyndŵr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Y cynghorydd sir yng Ngwynedd Elfed Wyn ap Elwyn sydd wedi creu’r ddeiseb i gadw’r safle “hollbwysig” ym Mhowys, gan ddweud bod Owain Glyndŵr “yn symbol o Gymru unedig flaengar.”
Wrth siarad â golwg360 dywedodd Elfed wyn ap Elwyn: “Mae’n ddigalon iawn i weld bod cartref Glyndŵr, sef Sycharth, bron yn angof ynghanol cefn gwlad Powys.”
Mae’n galw ar y Llywodraeth i fynd ati i sicrhau bod y safle’n cael ei gadw’n saff i’r genhedlaeth nesaf, drwy ei brynu a’i wneud yn fwy hygyrch i bobl allu mynd yno i werthfawrogi’r safle.
“Mae’n siomedig gweld yr holl gestyll o gwmpas Cymru’n cael eu gwarchod, a bod y safle yma prin yn cael ei hysbysebu, heb sôn am ddathlu.
“Mae’n anodd dweud pam bod cestyll wedi cael eu gwarchod yng Nghymru ac nid Sycharth,” meddai.
“Efallai bod mwy o bwyslais wedi bod ar hanes Prydeinig y hytrach na hanes Cymru. Mae yna fwy o bwyslais wedi bod ar gastell Harlech.
“Dydy o [Sycharth] heb fod mor apelgar i’r llygaid a beth yw’r cestyll Prydeinig yma yng Nghymru.”
‘Symbol i’r genedl’
Mae’n amser newid y ffordd rydan ni’n edrych ar hanes Cymru, meddai Elfed wyn ap Elwyn, gan ddechrau gyda Sycharth.
“Mae cymeriadau wedi lliwio’r hanes diddorol yma, gyda neb mor amlwg ag Owain Glyndŵr, sydd wedi cyfrannu gymaint i’n hunaniaeth, ac mae llawer yn ei ddefnyddio fel symbol i’r genedl.
“Mae Sycharth nid yn unig yn cynrychioli’r symbolaeth oedd Owain Glyndŵr yn ei gynrychioli mae o’n cynrychioli rhywle pwysig iawn yn yr Oesoedd Canol.
“Mae’n rhoi rhyw ddarlun i ni o beth ydy’r gorffennol. Mae’n allwedd ar gyfnod Glyndŵr a’i ddylanwad dros Gymru.
“Roedd yn symbol o Gymru unedig flaengar ar y pryd.”
‘Y safleoedd yma’n bwysig iawn’
“O edrych ar y dirywiad sydd wedi bod efo’r cyfrifiad rŵan, sy’n dorcalonnus, rwy’n meddwl bod y safleoedd yma yn bwysig iawn,” meddai Elfed Wyn ap Elwyn.
“Mae wedi cymryd 600 mlynedd i gael Senedd ein hunain. Mae o i gyd yn rhan o’r weledigaeth.
“Nid yn unig mae hanes Cymru yn adrodd beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol ond sut rydym ni wedi cyrraedd y sefyllfa rydym ynddo rŵan. Y sefyllfa wleidyddol, ieithyddol.
“Drwy edrych nôl ar hanes gallwn ddeall y gorffennol a dadwneud rhai pethau neu newid pethau. Mae’n bwysig edrych i’r gorffennol i ddeall be sy’n digwydd yn y presennol.”