Mae YesCymru wedi croesawu canfyddiadau’r adroddiad interim gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, gan ddweud ei fod yn “gam enfawr” tuag at annibyniaeth.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r Comisiwn, sy’n cael ei gyd-gadeirio gan yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams, wedi bod yn casglu tystiolaeth ar sut mae Cymru yn cael ei llywodraethu ar hyn o bryd.
Mae’r grŵp o 11 o aelodau’r Comisiwn wedi bod yn siarad gyda dros 2,000 o unigolion, grwpiau arbenigol a sefydliadau.
Yn ei adroddiad, mae’n dadlau nad yw’r sefyllfa bresennol yn opsiwn ymarferol ar gyfer darparu sefydlogrwydd a ffyniant i Gymru.
Mae’n nodi pwysau sylweddol ar y ‘setliad’ presennol, gan ddadlau bod ‘anghydbwysedd grym’ i bobl Cymru o ran gallu dylanwadu ar bethau sy’n effeithio arnyn nhw.
Yn y cyfamser, mae gwendid parhaus economi Cymru hefyd wedi’i restru fel problem sylfaenol sydd, o gymharu â’r Deyrnas Unedig, yn parhau i danberfformio.
Casgliad
Daw’r adroddiad i’r casgliad bod tri llwybr cyfansoddiadol o ran sut gellid rhedeg Cymru, a allai wella bywydau pobol Cymru, sef:
- Cryfhau a diogelu’r setliad datganoli presennol.
- Creu dull ffederal gyda chyfansoddiad newydd ar gyfer y Deyrnas Unedig sy’n creu cydraddoldeb rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- Annibyniaeth, lle byddai Cymru yn dod yn wlad sofran, yn gymwys i wneud cais am aelodaeth lawn o sefydliadau rhyngwladol, fel y Cenhedloedd Unedig.
“Y gyfundrefn bresennol yn amhosib”
Fodd bynnag, yn ôl YesCymru mae hi’n “amlwg bellach bod cynnal y gyfundrefn bresennol yn amhosib”.
Dywed ei bod yn croesawu’r gydnabyddiaeth fod annibyniaeth bellach yn wir ddewis fel ffordd o sicrhau dyfodol Cymru, ei chymunedau a’i dinasyddion ac nad yw lleihau pwerau datganoledig y Senedd yn opsiwn y dylid ei ystyried.
Mae’r mudiad hefyd yn cytuno fod y cyfyngiadau presennol ar faterion economaidd, y fframweithiau cyfreithiol a’r strwythurau llywodraethiant yn niweidiol i fuddiannau Cymru a bod “diwygio yn hanfodol er mwyn sicrhau cynnydd”.
“Mae YesCymru yn cytuno gyda chanfyddiadau’r Comisiwn fod goruchafiaeth Senedd San Steffan yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gychwyn unrhyw newid i’r trefniadau presennol, ac o ganlyniad yn gallu anwybyddu unrhyw alwad am newid pellach a wneir gan bobl Cymru,” meddai Elfed Williams, Cadeirydd Plaid Cymru.
“Rydym wastad wedi datgan, nad partneriaeth rhwng pedair cenedl yw’r Undeb ond tra-arglwyddiaeth San Steffan dros y gweddill ohonom.”
“Cam enfawr ymlaen”
Dywedodd Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr YesCymru: “Mae Cymru annibynnol nawr ar flaen y gad fel yr unig opsiwn go iawn i ddiogelu ein dinasyddion rhag cael eu llethu gan lywodraethiant San Steffan.
“Rhaid sicrhau’r dyfodol mwyaf disglair posibl i unrhyw un sy’n dymuno galw Cymru yn gartref iddynt ac mae’n glir mai Annibyniaeth yw’r opsiwn orau i wneud hyn.
“Mae’r adroddiad yn gam enfawr ymlaen yn ein nod o sicrhau’r diwygiad cyfansoddiadol sydd ei angen i wireddu’r weledigaeth o Gymru annibynnol, ac rydym yn ei groesawu.
“Mae YesCymru yn fudiad sydd wedi ymrwymo i’r nod o Gymru annibynnol.
“Dim ond Cymru, gyda’i llywodraeth a’i sefydliadau ei hun, wedi’u hethol a’i greu gan bobl Cymru y gellir ymddiried ynddo i lywodraethu er lles ei phobl.
“Rydyn ni’n credu mewn Cymru annibynnol sy’n cofleidio ac yn dathlu amrywiaeth pawb sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt.”