Mae ‘problemau sylweddol gyda’r ffordd caiff Cymru ei llywodraethu ar hyn o bryd’ fel rhan o’r Undeb, yn ôl y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Cafodd adroddiad interim ar waith y Comisiwn ei gyhoeddi heno (dydd Mawrth, Rhagfyr 6).
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r Comisiwn, sy’n cael ei gyd-gadeirio gan yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams, wedi bod yn casglu tystiolaeth ar sut mae Cymru yn cael ei llywodraethu ar hyn o bryd.
Mae’r grŵp o 11 o aelodau’r Comisiwn wedi bod yn siarad gyda dros 2,000 o unigolion, grwpiau arbenigol a sefydliadau. Yn ei adroddiad, mae’n dadlau nad yw’r sefyllfa bresennol yn opsiwn ymarferol ar gyfer darparu sefydlogrwydd a ffyniant i Gymru.
Daw’r adroddiad i’r casgliad bod tri llwybr cyfansoddiadol o ran sut gellid rhedeg Cymru, a allai wella bywydau pobol Cymru.
Tri llwybr cyfansoddiadol hyfyw
Y tri llwybr yw:
1. Cryfhau a diogelu’r setliad datganoli presennol.
2. Creu dull ffederal gyda chyfansoddiad newydd ar gyfer y Deyrnas Unedig sy’n creu cydraddoldeb rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
3. Annibyniaeth, lle byddai Cymru yn dod yn wlad sofran, yn gymwys i wneud cais am aelodaeth lawn o sefydliadau rhyngwladol, fel y Cenhedloedd Unedig.
Economi Cymru ‘yn wendid parhaus’
Mae’r Comisiwn yn credu bod y broses ddatganoli bresennol a ddechreuodd ar ôl refferendwm 1997 wedi bod yn gam mawr ymlaen i ddemocratiaeth Cymru.
Ond mae ei adroddiad yn nodi pwysau sylweddol ar y ‘setliad’ presennol, gan nodi ‘anghydbwysedd grym’ i bobol Cymru o ran gallu dylanwadu ar bethau sy’n effeithio arnyn nhw.
Mae’r adroddiad yn nodi deg pwynt pwyso ar gyfer datganoli.
Mae ‘bregusrwydd’ y setliad datganoli a goruchafiaeth senedd San Steffan wrth wneud penderfyniadau am ddyfodol democratiaeth Cymru yn cael eu gweld fel problemau critigol.
Mae gwendid parhaus economi Cymru hefyd wedi’i restru fel problem sylfaenol sydd, o gymharu â’r Deyrnas Unedig, yn parhau i danberfformio.
Dywedodd Dr Rowan Williams, cyd-gadeirydd y Comisiwn: “Er gwaethaf buddsoddiadau, mae economi Cymru yn dal i fod ar ei hôl hi, sy’n dangos bod problem strwythurol mae angen mynd i’r afael â hi.
“Mae hynny’n dweud wrthon ni nad yw economi Cymru yn gwneud yn dda o dan y sefyllfa bresennol.
“Ond pa opsiynau cyfansoddiadol, os o gwbl, fyddai’n ein galluogi i ddod yn wlad fwy llewyrchus a gwella bywydau pobol Cymru?
Mae hyn yn rhywbeth mae’n rhaid i ni barhau i’w archwilio.”
Diffyg cyfansoddiad y Deyrnas Unedig ‘bron yn unigryw’
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod y Deyrnas Unedig bron yn unigryw am nad oes ganddi gyfansoddiad ysgrifenedig.
Mae’r Comisiwn yn nodi bod “cyfansoddiad anysgrifenedig” yn cymryd “sofraniaeth” San Steffan yn ganiataol, sy’n gosod cyfyngiadau sylweddol ar bobol Cymru a’u cynrychiolwyr etholedig i benderfynu sut y dylen nhw gael eu llywodraethu.
Dywedodd yr Athro Laura McAllister, cyd-gadeirydd y Comisiwn: “Mae’r Undeb wedi cael gweithredu heb wiriadau ac amddiffynfeydd cadarn ar ei grym, ac ni fu hyn erioed yn fwy amlwg nag yn y tair blynedd diwethaf gyda llywodraeth sydd â mwyafrif mawr ac sydd wedi bod yn llai parod i rannu grym â sefydliadau eraill.
“Mae ein gwaith archwiliol dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn atgoffeb boenus nad yw diffyg cyfansoddiad ysgrifenedig yn gwarantu sefydlogrwydd i Gymru na llywodraethu da.
“Yn fwy nag erioed, mae’n amlwg mai’r unig ffordd i fynd i’r afael â’r heriau o ran y ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu yw drwy gydnabod y gyd-ddibyniaeth o ran materion cyfansoddiadol ehangach yn y Deyrnas Unedig.
“Rydyn ni’n realistig iawn mai dim ond gyda chyfansoddiad ysgrifenedig y gellir cyflawni dau o’r tri llwybr cyfansoddiadol rydyn ni wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad yma.”
‘55% yn ffafrio annibyniaeth’
Drwy ymgynghoriad ar-lein y Comisiwn, Dweud eich Dweud, cafodd dros 2,000 o ymatebion eu casglu oedd yn rhoi cipolwg cynnar i safbwyntiau pobl am y ffordd y caiff Cymru ei rhedeg ar hyn o bryd.
Y dewis cyfansoddiadol mwyaf poblogaidd oedd annibyniaeth, a ffafriwyd gan 55% (1096) o’r dros 2,000 o ymatebwyr.
Er bod hyn yn arwyddocaol, mae’r Comisiwn wedi cydnabod mai un o’r rhesymau posib dros hyn yw fod grwpiau sydd o blaid annibyniaeth yn annog eu cefnogwyr i ymateb.
Dywedodd Rowan Williams: “Roedden ni’n gwybod bod yr ymgynghoriad ar-lein yn debygol o ennyn ymatebion gan bobol sydd eisoes â barn, ac o’r herwydd, fe gawson ni safbwyntiau cryf o’r naill ben a’r llall i’r sbectrwm gwleidyddol.
“Yn y cyd-destun hwnnw nid yw’n syndod bod annibyniaeth yn thema mor gryf yn yr ymgynghoriad.
“Fel Comisiwn, gallwn ddefnyddio hyn i lunio darlun o bwy sydd heb ymgysylltu â’n gwaith eto.
“Beth bynnag yw eich barn am gasgliadau’r adroddiad interim, mae amser o hyd i ddweud eich dweud a siapio sut y gallai Cymru gael ei llywodraethu yn y dyfodol.”