Mae’r cogydd Chris ‘Flamebaster’ Roberts a’i fam, y cyflwynwyr Emma Walford a Trystan Ellis-Morris, a’r cyflwynwyr radio Huw Stephens a Sian Eleri ymhlith y wynebau cyfarwydd fydd yn cymryd rhan mewn rhaglen Nadolig arbennig o Gogglebocs Dolig, meddai S4C.

Bydd y rhaglen Nadolig hefyd yn cynnwys rhai o gast poblogaidd Gogglebocs Cymru.

Yr enwogion a fydd yn rhan o’r rhaglen arbennig ydy: y cyflwynwyr radio Huw Stephens a Sian Eleri; cyflwynwyr S4C Emma Walford a Trystan Ellis-Morris; Maggi Noggi a’r digrifwr Kiri Pritchard-McLean; y cyflwynydd rygbi Sarra Elgan, dyfarnwr Undeb Rygbi Cymru Nigel Owens a chyn-seren rygbi Cymru Jonathan Davies; Melanie Owen, Mali Ann Rees a Jalisa Andrews sef cyflwynwyr y podlediad Mel, Mal, Jal; y grŵp roc Adwaith, sydd wedi ennill Gwobr Cerddoriaeth Cymru ddwywaith; a’r actores, y gantores a’r digrifwr Carys Eleri a’i mam.

Mae’r cyflwynydd a’r digrifwr stand-yp, Tudur Owen, yn dychwelyd i leisio’r sioe.

Dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llinos Griffin-Williams: “Rwyf wrth fy modd gyda llwyddiant Gogglebocs Cymru. Mae ein cast yn prysur ddod yn enwau cyfarwydd. Roedd hi ond yn naturiol i ni benderfynu comisiynu rhaglen Nadolig arbennig gyda phersonoliaethau Cymreig adnabyddus yn ymuno â chast y gyfres gyntaf.”

Bydd y ffilmio yn dechrau yn nhrydedd wythnos Rhagfyr ac yn cael ei darlledu ar S4C a BBC iPlayer nos Fercher 28 Rhagfyr am 9.00pm.

Bydd penodau wythnosol o Gogglebocs Cymru yn parhau ar ddydd Mercher drwy gydol Ionawr 2023.