Mae Heddlu’r Gogledd yn cynnal ymchwiliad ar ôl i adeilad ym Mangor gael ei roi ar dân yn fwriadol.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i’r digwyddiad tua 9yh nos Lun (Rhagfyr 5). Roedd y tân wedi dinistrio’r adeilad yn Ffordd Caergybi. Roedd yr adeilad hanesyddol wedi bod yn wag ers peth amser. Fe lwyddodd diffoddwyr i gael y tân dan reolaeth erbyn hanner nos.
Bu’r ffordd ar gau am rai oriau a chafodd pobl eu cynghori i gadw draw o’r ardal.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Gogledd eu bod nhw’n credu bod y tân wedi’i gynnau’n fwriadol ac yn apelio am wybodaeth.