Mae’r nod o gyrraedd ‘Miliwn o Siaradwyr’ erbyn 2050 yn bellach i ffwrdd heb “weithredu radical”, meddai Plaid Cymru.
Daw sylwadau’r blaid yn dilyn cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 6) sy’n dangos gostyngiad yn nifer y bobol sy’n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
Un o’r prif ffactorau a gyfrannodd at y gostyngiad cyffredinol oedd y gostyngiad yn nifer y plant a phobol ifanc rhwng tair a 15 oed oedd yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
Galw am ‘weithredu radical’
Wrth ymateb i’r data, dywedodd Heledd Fychan AS, llefarydd Plaid Cymru dros blant, pobol ifanc a’r Gymraeg: “Mae’r data hwn yn dangos nad yw’n ddigon i osod targed yn unig – mae angen gwneud yn ogystal â dweud.
“Y gwir yw ein bod bellach yn bellach i ffwrdd o nod Llafur o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 nag oedden ni ddeng mlynedd yn ôl.
“Er ei bod yn galonogol gweld cynnydd yn nifer yr oedolion ifanc sy’n dweud eu bod yn medru’r Gymraeg, mae’n hynod o bryderus i weld gostyngiad o’r fath yn y nifer o blant.
“Mae hyn yn dangos pa mor hanfodol yw rôl athrawon sydd yn medru’r iaith Gymraeg, yn ogystal â buddsoddiad mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
“Does gennym ni ddim digon o’r naill na’r llall, felly os yw Llywodraeth Cymru o ddifri’ am gyrraedd eu targed, mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau rhagor o fuddsoddiad yn y meysydd hyn.
“Mae’r ffaith bod gostyngiad yn nifer yr oedolion sy’n gallu siarad Cymraeg yn yr ardaloedd hynny o Gymru sydd hefyd wedi gweld cynnydd mawr mewn ail gartrefi, yn dangos yr effaith ar yr iaith pan mae cymunedau wedi’u chwalu fel hyn.
“Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers tro i sicrhau bod mynediad at ddysgu a defnyddio’r Gymraeg ar gael i bawb yng Nghymru.
“Mae’n bryderus iawn i weld y dirywiad hwn mewn niferoedd o siaradwyr Cymraeg o dan oruchwyliaeth Llafur.
“Mae Cymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, ond mae angen mwy na geiriau cynnes arnom er mwyn sicrhau bod ein hiaith yn goroesi – mae angen gweithredu radical arnom.”
‘Siom’
Mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, hefyd wedi mynegi ei siom.
“Nid dyma roedden ni eisiau ei weld.
“Mae Cyfrifiad 2021 yn giplun o’r hyn sydd wedi digwydd dros y degawd diwethaf.
“Cawn olwg fanwl ar y canlyniadau hynny ochr yn ochr â’r holl ystadegau ac ymchwil arall sydd ar gael i ni.
“Rwyf wedi sôn yn aml fod y Gymraeg yn fwy na jyst rhywbeth rwy’n ei siarad – mae’n rhywbeth rwy’n ei deimlo.
“Ac rwy’n teimlo bod mwy a mwy o bobol yn teimlo bod y Gymraeg yn perthyn iddyn nhw.
“Y gamp yw troi’r teimladau hynny’n ddefnydd iaith.”
Dywedodd y bydd yn edrych yn fanwl ar y data, yn benodol y ffigurau sy’n ymwneud â phobol 3-15 oed.
Effaith Covid
“Roedd Covid-19 yn golygu bod 2021 yn adeg ansicr iawn, a llawer o bobol yn poeni am allu iaith eu plant, a’r plant hynny allan o’r ysgol,” meddai Jeremy Miles.
“Mae’n bosibl ein bod yn gweld y consyrn hwnnw yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd maen nhw’n adrodd ar allu eu plant yn y Gymraeg.
“Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru’n dangos cynnydd yn nifer y bobol sy’n nodi eu bod yn siarad ychydig o Gymraeg.
“Mae hyn yn gwrthgyferbynnu â ffigurau’r cyfrifiad sy’n cael eu rhyddhau heddiw.
“Fe wnawn ni edrych ar hyn yn fanwl hefyd.
“Rwyf wedi dweud o’r blaen y byddaf yn adolygu’n taflwybr ystadegol yng ngoleuni data’r cyfrifiad i gael gweld beth yn fwy gallwn ei wneud i helpu mwy ohonon ni i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd.
“Fel rhan o hyn, byddaf am siarad gyda phobl ledled Cymru wedi’r Calan.”
‘Rhesymau da i fod yn optimistaidd’
Ychwanegodd: “Ond mae’n hymrwymiad yn parhau i filiwn o siaradwyr ac i ddyblu’r nifer ohonon ni sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd erbyn 2050.
“Mae’r cyfrifiad yn dangos beth sydd wedi digwydd dros y deng mlynedd diwethaf.
“Mae Cymraeg 2050 gyda ni ers 5 mlynedd, a hanner o’r rheini yn ystod cyfnod Covid-19.
“Mae gyda ni resymau da i fod yn optimistaidd am y degawd sydd o’n blaenau ni.
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd yng Nghymru.
“Heddiw, mae mwy o bobol mewn addysg Gymraeg, mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a mwy o falchder yn ein hiaith a’n hunaniaeth nag erioed o’r blaen.”
‘Hynod siomedig’
Siomedig oedd ymateb y Ceidwadwyr Cymreig hefyd. Dywedodd llefarydd y Gymraeg y blaid, Samuel Kurtz AS:
“Mae hwn yn ystadegyn hynod siomedig sy’n dangos bod y Llywodraeth Lafur ymhellach i ffwrdd o gyflawni ei huchelgais Cymraeg 2050 nag yr oedd pan osododd y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr ymhen 30 mlynedd.
Gyda strategaeth mor hirdymor, a chyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo o Weinidog i Weinidog wrth i ni nesáu at 2050, mae’r atebolrwydd ynghylch penderfyniadau sy’n effeithio ar yr iaith yn brin.”
Er eu bod yn cefnogi’r uchelgais o gyrraedd Miliwn o Siaradwyr erbyn 2050, meddai Samuel Kurtz, mae data’r Cyfrifiad yn dangos bod y Llywodraeth wedi bod “mewn grym am gyfnod rhy hir ac allan o syniadau.”
Er mwyn sicrhau bod yr iaith yn ffynnu mae angen “positifrwydd o amgylch yr iaith, sy’n dangos ei bod yn cŵl, yn fodern, a bod modd ei defnyddio ym mywyd pob dydd,” meddai.