Mae perchennog tafarn yn Wrecsam wedi dweud y bydd yn rhoi wythnos o elw’r busnes i fanc bwyd lleol.

Dywedodd Wayne Jones, perchennog tafarn y Turf yn Wrecsam na fydd yn agor eleni i fwydo’r digartref, a hynny am y tro cyntaf ers tair blynedd. Serch hynny dywedodd y bydd yn rhoi gwerth wythnos o elw’r fan fwyd o Ragfyr 19 hyd at Ragfyr 24 i fanc bwyd Wrecsam ac elusennau eraill.

Yn y cyfamser mae’r actor a chydberchennog clwb pêl-droed Wrecsam Rob McElhenney  wedi addo dyblu’r swm sy’n cael ei godi tuag at y banc bwyd.

Meddai Wayne Jones: “Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi agor fan a bwydo pobl ddigartref ar Ŵyl San Steffan.

“Diolch byth, mae gan fwy o fusnesau yn yr ardal bellach leoliadau awyr agored i fwydo’r digartref felly does dim angen i ni agor eleni.

“Rydym yn cael cefnogaeth ardderchog yn lleol trwy gydol y flwyddyn ac mae’n bwysig ein bod yn chware ein rhan. Mae’r banc bwyd yn gwneud gwaith gwych.  Rydyn ni wedi gwneud llawer iddyn nhw yn y gorffennol.”

Wrth ymateb i gynnig Rob McElhenney i ddyblu’r swm, dywedodd Wayne Jones: “Rwy’n hapus ac yn ddiolchgar iawn. Mae’n gynnig caredig arall ganddo.”

Helpu elusennau lleol

Yn ogystal â helpu’r banc bwyd bydd yr elw hefyd yn mynd at elusennau lleol. Dywedodd Wayne Jones nad ydyn nhw wedi penderfynu pa elusennau maen nhw am helpu ar hyn o bryd.

“Gawn ni weld beth ydy’r swm fydd yn cael ei godi. Byddwn ni’n cyfrannu i’r rhai sydd ei angen. Rydan ni’n gobeithio cefnogi cymaint ag y gallwn yn yr ardal.

“Yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn gyffredinol yw gofyn pwy sydd wir angen yr help.

“Mae rhai elusennau yn cael mwy o gefnogaeth nag eraill.  Rydyn ni’n helpu elusen leol sy’n helpu rhieni sengl, er enghraifft.

“Ar hyn o bryd, rydym yn teimlo y dylen nhw flaenoriaethu’r banc bwyd wrth i fwy o bobl ei ddefnyddio. Rwy’n ymwybodol bod yna broblemau tu hwnt i Wrecsam, ond rydym yn teimlo bod helpu pobl leol yn flaenoriaeth.

“Rwy’n meddwl pe bai pawb yn helpu yn eu pentrefi, eu trefi a’u dinasoedd, byddai’n gwneud gwahaniaeth.”

 Yr argyfwng costau byw a thlodi yn Wrecsam

Yn yr hinsawdd sydd ohoni gyda’r argyfwng costau byw mae tlodi bwyd yn dod yn fwy cyffredin ac “fel llawer o drefi o amgylch Cymru a’r DU, mae Wrecsam yn ei chael hi’n anodd,” meddai Wayne Jones.

“Mae pawb yn ymwybodol bod yna argyfwng costau byw. Rwy’n weddol sicr, yn anffodus, bod tlodi yn cynyddu a bydd yn rhaid i bobol droi at fanciau bwyd.

“Mae angen i ni wneud yn siŵr fod y banc bwyd yn Wrecsam yn barod a gyda chyflenwad digonol.”

Hoffai Wayne Jones ddiolch i bawb sydd wedi helpu, ei staff, ei gwsmeriaid, pobol o Wrecsam a phobol ledled y byd.

Mae pobol yn yr Unol Daleithiau a Chanada wedi cyfrannu at yr apêl, meddai.

Os ydych eisiau cyfrannu at fanc bwyd Wrecsam gallwch fynd at eu gwefan.

Mae’n bosib gwneud cyfraniad yn nhafarn y Turf hefyd.