Mae rôl deithiol yr Eisteddfod yn bwysicach nag erioed er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn ôl y trefnwyr.
Daw hyn yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 ar y Gymraeg heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 6).
Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, dywedodd 538,300 o bobol tair oed neu’n hŷn yng Nghymru eu bod yn gallu siarad Cymraeg, o’i gymharu â 562,000 yn 2011.
Mae canran y bobol sy’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng i 17.8% dros y degawd diwethaf, yn ôl y cyfrifiad.
Roedd y ganran yn 2011 yn 19.0% – erbyn 2021 roedd hynny wedi gostwng i 17.8%, sef gostyngiad o 1.2%.
Yr Eisteddfod yn “rheswm dros ddod at ein gilydd”
Yn dilyn y canlyniadau, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud bod yr angen i barhau gyda’u gwaith i ysbrydoli pobol o bob oed ym mhob rhan o Gymru i ddefnyddio ac i fynd ati i ddysgu’r Gymraeg yn hollbwysig.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: “Mae’n hanfodol fod yr Eisteddfod yn parhau i deithio yn y dyfodol, er mwyn sicrhau fod pobol o bob oed ym mhob rhan o Gymru’n cael blas o’n hiaith a’n diwylliant ar stepen y drws.
“Mae’n braf gweld y cynnydd mewn rhai ardaloedd, ac mae’n bwysig ein bod ni’n cael cyfle i ymweld â’r ardaloedd yma er mwyn cefnogi ac atgyfnerthu’r gwaith sy’n cael ei wneud yn lleol.
“Mae creu cyfleoedd i bobol ifanc ddarganfod cerddoriaeth Gymraeg a chymdeithasu mewn gwyliau fel Maes B a’r Eisteddfod ei hun yn hanfodol bwysig.
“Yn aml, dyma’r tro cyntaf i nifer fawr ohonyn nhw ddefnyddio’r Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol a naturiol y tu allan i fyd addysg.
“Mae cyfarfod pobol o’r un anian o rannau eraill o Gymru sy’n siarad ein hiaith yn brofiad positif a chofiadwy.
“Yn ogystal, mae prosiectau fel Merched yn Gwneud Miwsig yn creu llais i ferched ifanc yn y Gymraeg drwy gerddoriaeth, gan roi hyder iddyn nhw berfformio neu adnabod cyfleoedd i fod yn rhan o’r sîn gerddoriaeth Gymraeg mewn rhyw ffordd.
“Mae datblygu rôl gymunedol y Brifwyl ymhellach yn angenrheidiol, gan weithio gyda phartneriaid ar lawr gwlad i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac anghyfarwydd yn y cyfnod cyn yr Eisteddfod, fel bod ein hiaith a’n diwylliant yn cael cyfle i wreiddio’n lleol cyn yr ŵyl ei hun.
“Dod â phobol ynghyd mewn gweithgareddau Cymraeg, yw un o hanfodion pwysicaf ein prosiect.
“Mae ymweliad yr Eisteddfod yn rheswm dros ddod at ein gilydd yn ein cymunedau, boed yn gymuned drefol neu boblog neu’n bentref bach yng nghefn gwlad Cymru.”
Ymuno fel un i gefnogi’r iaith Gymraeg
“Mae’r wythnosau diwethaf wedi dangos pa mor bwysig yw bod yn bositif am ein gwlad ar y llwyfan rhyngwladol,” meddai.
“Rydyn ni wedi ymuno gyda’n gilydd i gefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd.
“Nawr yw’r amser i ymuno fel un i gefnogi ein hiaith ac i gydweithio, gan ddechrau ar lefel meicro-leol ac edrych allan ar ein hardal ein hunain a Chymru gyfan.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i annog a denu pobol o bob oed a chefndir at ein hiaith, gan fod yn fwy penderfynol nag erioed i wneud gwahaniaeth.
“Ein nod heddiw fel pob diwrnod arall yw cyrraedd y filiwn a sicrhau ein bod ni hefyd yn dyblu’r defnydd dyddiol o’n hiaith erbyn 2050.
“Fel Eisteddfod, fe fyddwn ni’n parhau gyda’n gwaith o ddefnyddio ein gŵyl fel cyfle ardderchog i hyrwyddo pob elfen o ddiwylliant a chelfyddyd yn y Gymraeg gan gynnig croeso cynnes, cyfeillgar a chynhwysol i bawb.”