Fe allai “gwendidau” efo data’r Cyfrifiad fod yn rheswm posib am y gostyngiad yn nifer y plant a phobol ifanc sy’n siarad Cymraeg, yn ôl Athro yn Ysgol Gwyddorau Addysgol Prifysgol Bangor, Enlli Thomas.
Mae cyfrifiad 2021 yn dangos bod canran y bobol sy’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng 1.2% dros y degawd diwethaf.
Yn 2011, roedd 19% o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, yn ôl y Cyfrifiad.
Ond yn 2021, nododd tua 538,000 (17.8%) o bobol tair oed neu’n hŷn yng Nghymru eu bod yn gallu siarad Cymraeg, o’i gymharu â 562,000 yn 2011.
Un o’r prif ffactorau a gyfrannodd at y gostyngiad cyffredinol oedd y gostyngiad yn nifer y plant a phobol ifanc rhwng tair a 15 oed oedd yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
Bu gostyngiad o 6.0 pwynt canran mewn plant rhwng 5 a 15 oed oedd yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021, a bu gostyngiad tebyg ar gyfer plant 3 i 4 oed.
Gwendidau’r Cyfrifiad
Roedd hi’n anodd rhagweld beth fyddai’n digwydd yng Nghyfrifiad 2021, meddai Enlli Thomas.
“Mae’r newid mawr sydd wedi bod rhwng 2011 a 2021 yn benodol i wneud efo’r cwymp yn y plant rhwng 3 a 15 oed sydd yn dweud eu bod nhw’n siarad Cymraeg,” meddai wrth golwg360.
“Ond ar yr un llaw mae yna gwymp wedi bod yn y boblogaeth o blant yr oed yna beth bynnag.
“Hefyd, wrth gwrs, pan mae rhywun yn ystyried data ar gyfer plant, y broblem ydi nad y plant eu hunain sydd yn amcangyfrif eu defnydd a’u gallu… eu rhieni sy’n gwneud drostyn nhw.
“Ac rydyn ni’n gwybod o ymchwil bod barn rhieni yn wahanol i farn plant o beth sy’n mynd ymlaen yn eu bywydau nhw, a faint o Gymraeg maen nhw’n siarad.
“Mae yna lot o wendidau efo data’r cyfrifiad felly mae’n anffodus ein bod ni’n gorfod defnyddio data’r Cyfrifiad fel rhyw fesur proxy o beth sydd yn mynd ymlaen.
“Mae geiriad y cwestiynau hefyd yn broblem achos y cwbl mae’r cwestiwn yn ei ofyn ydi ‘Ydych chi’n gallu?’ ac wedyn mae rhywun yn ticio.
“Does yna ddim byd yn gofyn a ydyn nhw’n gallu gwneud o ychydig bach neu’n hyderus, felly, mewn ffordd, mae rhywun yn gorfod gwneud penderfyniad ydw neu nac ydw.
“Ddim fel yna mae iaith yn gweithio.”
Mae Enlli Thomas felly o’r farn fod danamcangyfrif mawr yn y data o beth sy’n digwydd ar lawr gwlad.
Gwaith i’w wneud gydag addysg
Mae Enlli Thomas yn teimlo bod elfen ar goll o’r addysg mae plant yn derbyn, sef esboniad o beth yw bod yn siaradwr Cymraeg.
“Mae yna lot o waith i’w wneud yn y cyd-destun addysg.
“Mae yna ormod o bwyslais ar sgiliau iaith a bod y sgiliau hynny yn gorfod bod yn sgiliau rhugl er mwyn i rywun deimlo eu bod yn cael bod yn siaradwr, ac yn cael galw eu hunain yn ddwyieithog.
“Mae ymchwil wedi dangos fod plant ifanc iawn yn cymharu eu gallu efo plant eraill.
“Yng nghyd-destun iaith, mae plentyn ail iaith wastad yn mynd i gymharu ei sgiliau ieithyddol efo plant iaith gyntaf.
“Dylen nhw gael galw eu hunain yn siaradwr hyd yn oed os ydyn nhw’n gorfod chwilota am eiriau yn aml iawn a’u bod nhw’n defnyddio lot o eiriau Saesneg am nad ydyn nhw’n gwybod beth ydyn nhw yn y Gymraeg.”
Yn ôl Enlli Thomas, mae Covid a’r cyfnod o orfod troi at ddulliau newydd o addysgu wedi profi bod ffyrdd o gysylltu plant mewn ardaloedd di-Gymraeg efo plant mewn ardaloedd Cymraeg, yn rhithiol ac yn rhad.
“Mae yna bocedi o ardaloedd yng Nghymru lle mae yna ganrannau uchel iawn o blant sy’n siarad Cymraeg yn gwbl naturiol.
“Ond mae yna blant sydd mewn ardaloedd eraill o Gymru sydd ddim yn sylweddoli bod yna ardaloedd felly.
“Mae trio cael plant i ddylanwadu ar ei gilydd, yn hytrach na chael oedolion i drio, yn rhywbeth ddylen ni edrych mewn iddo fwy.”
Symud ymlaen gyda’r cwricwlwm newydd
“Rydan ni mewn cyfnod eithaf cyffrous, mewn ffordd, achos bod y cwricwlwm newydd ond newydd gychwyn, ac mae yna le yn y cwricwlwm newydd i ni fod yn fwy hyblyg am sut rydan ni’n mynd ati i ddysgu plant.
“Yn bersonol dw i’n meddwl dylen ni fynd ati i chwilio am ddulliau amgen o drio cynnig y math o addysg trochi mae plant yn cael yn y sector trochi, a gwneud rhyw fersiwn o hynny ar gael i blant ledled Cymru.
“Oherwydd prinder athrawon fyddai’n rhaid iddo fod yn rhyw becyn rhithiol.
“Ond dylai fod cyfnod o gwpl o wythnosau ar ddechrau’r cyfnod academaidd lle mae plant yn cael hwyl yn defnyddio’r Gymraeg, yn cael tasgau Cymraeg a’u bod nhw’n cael eu hamgylchynu gan y Gymraeg.
“Byddai hynny’n rhoi hwb iddyn nhw fel maen nhw’n mynd drwy weddill y flwyddyn academaidd.”
‘Gormod o bwyslais ar gyrraedd y filiwn’
“Mae yna ormod o bwyslais ar gyrraedd y filiwn yn hytrach na’r ail nod y strategaeth 2050, sef cynyddu defnydd.
“Dw i’n meddwl bod mwy o bwyslais angen bod ar y strategaethau sy’n mynd i helpu plant ac oedolion i fod yn hyderus yn defnyddio’r Gymraeg yn gwbl naturiol.
“Dydi hynny ddim wedyn yn rhywbeth sy’n cael ei fesur gan y Cyfrifiad.
“Os ydi’r iaith yn mynd i fod yn un sydd dal yma yn 2050, mae’n rhaid i ni gael pobol sydd yn ei siarad hi’n naturiol ym mhob un cyd-destun.
“Mae cael iaith sydd ond i’w chlywed mewn rhai llefydd yn rhoi’r iaith dan fwy o fygythiad.
“Mae’n rhaid trio normaleiddio defnydd yr iaith ym mhob agwedd o fywyd.”