Mae canran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng i 17.8% dros y degawd diwethaf, yn ôl y cyfrifiad.
Roedd y ganran yn 2011 yn 19.0% – erbyn 2021 roedd hynny wedi gostwng i 17.8%, sef gostyngiad o 1.2%.
Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, dywedodd 538,300 o bobl tair oed neu’n hŷn yng Nghymru eu bod yn gallu siarad Cymraeg, o’i gymharu â 562,000 yn 2011.
Mae hyn yn ostyngiad o tua 23,700 o bobl ers Cyfrifiad 2011 neu’n ostyngiad o 1.2%. Mae hyn tua 17.8% o boblogaeth Cymru, a’r ganran isaf i gael ei chofnodi mewn cyfrifiad erioed.
Mae’n debyg mai un o’r prif ffactorau sydd wedi cyfrannu at y gostyngiad cyffredinol oedd y gostyngiad yn nifer y plant a phobl ifanc rhwng tair a 15 oed oedd yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
Yn ôl Cyfrifiad 2021, y ganran o bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg oedd yr isaf i’w gofnodi mewn cyfrifiad erioed.
Roedd gostyngiad o 6% mewn plant rhwng 5 a 15 oed oedd yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021. Bu gostyngiad tebyg ar gyfer plant 3 i 4 oed. Bu cynnydd bach yn y ganran o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn y grwpiau oedolion ifanc (pobl 16 i 19 oed a phobl 20 i 44 oed yn y drefn honno), gyda gostyngiadau yn y grwpiau hŷn.
‘Rhaid newid gêr ar frys’
Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 heddiw (Dydd Mawrth, 6 Rhagfyr) mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod gosod nod o Addysg Gymraeg i Bawb yn hanfodol er mwyn atal dirywiad y Gymraeg.
Meddai Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith, Robat Idris: “Mae’r Llywodraeth wedi datgan bwriad i anelu am filiwn o siaradwyr, ond heb weithredu i sicrhau’r twf angenrheidiol. Mae canlyniadau heddiw yn dangos bod rhaid newid gêr ar frys – un peth ymarferol y gall y Llywodraeth ei wneud rŵan ydy gosod nod yn y Ddeddf Addysg Gymraeg newydd y bydd pob plentyn yn cael eu haddysg drwy’r Gymraeg.
“Drwy osod taith glir tuag at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb, mi fyddwn ni’n sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol i gyd yn dod i siarad Cymraeg, fyddai’n golygu y gallwn ni ddisgwyl gweld newid cadarnhaol o Gyfrifiad 2031 ymlaen.”
Mae disgwyl papur gwyn gan Lywodraeth Cymru ar y Ddeddf Addysg Gymraeg, ond mae’r Llywodraeth eto i gyhoeddi y bydd sicrhau addysg Gymraeg i bawb yn rhan o’r Ddeddf honno, meddai Cymdeithas yr Iaith.
Y gallu i siarad Cymraeg yn ôl ardal
Roedd y canrannau uchaf o bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru, gyda 64.4% yng Ngwynedd a 55.8% yn Ynys Môn.
Gostyngodd canran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021 ym mhob awdurdod lleol ar wahân i Gaerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Sir Gaerfyrddin a welodd y gostyngiad mwyaf yn y ganran o bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg sef gostyngiad o 43.9% yn 2011 i 39.9% yn 2021.
Gwelodd pob awdurdod lleol ostyngiad yng nghanran y plant 3 i 15 sy’n nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021. Roedd y gostyngiadau’n tueddu i fod yn fwy mewn ardaloedd lle mae dwysedd siaradwyr Cymraeg yn is, fel Blaenau Gwent, Casnewydd a Thorfaen.
O’r 1,917 o ardaloedd bach yng Nghymru, roedd canran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yn amrywio o 86.3% (ardal fach yng Ngwynedd) i 3.8% (ardal fach ym Mlaenau Gwent).
‘Cymunedau Cymraeg dan fygythiad enbyd’
Mae Cymdeithas yr Iaith yn pryderu am y pwysau difrifol ar gymunedau Cymraeg, sydd wedi’i amlygu unwaith eto yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad heddiw.
Dywedodd Robat Idris: “Hyd yn oed yn fwy difrifol na’r ffaith fod cyfanswm y siaradwyr Cymraeg wedi disgyn eto, mae’r ffaith fod ein cymunedau Cymraeg dan fygythiad enbyd wrth i bobl leol gael eu gorfodi i adael oherwydd diffyg cartrefi sy’n fforddiadwy ar gyflogau lleol. Mae angen cyflwyno Deddf Eiddo fydd yn rheoleiddio’r farchnad dai, yn rhoi mwy o rym i’n cymunedau ac yn blaenoriaethu pobl leol.
“Pa ryfedd mewn gwirionedd bod gostyngiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg? Ar hyn o bryd mae 80% o’n pobl ifanc yn gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg. O ystyried hanes yr iaith, mae angen gweithredu pwrpasol gan y Llywodraeth os ydyn nhw o ddifrif am adfywiad yr iaith. Mae pethau ymarferol y gallan nhw eu gwneud ar unwaith – byddai Deddf Eiddo gadarn a Deddf Addysg Gymraeg i Bawb yn gallu newid sefyllfa’r iaith ar lawr gwlad ac yn creu’r newid sydd ei angen i ddechrau troi’r trai. Ond mae angen i’r deddfau hynny fod yn bellgyrhaeddol ac uchelgeisiol. Dydy dirywiad y Gymraeg ddim yn anochel, ond mae gweithredu o ddifri yn hanfodol.
“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth a chynghorau sir hefyd ystyried y Gymraeg ym mhob maes polisi, a pheidio neilltuo ymdrechion adfywio’r Gymraeg i swyddogion neu adrannau sy’n gyfrifol am yr iaith yn unig. Mae adfywio’r iaith yn ymdrech fawr sy’n gofyn am weithredu ar draws pob maes polisi”.