Bydd miloedd yn rhagor o bobol yng Nghymru yn elwa ar gael diagnosis o ganserau a chlefydau prin yn gyflymach, diolch i gynllun newydd i gynyddu’r defnydd o brofion genynnol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan fod y cynllun newydd, Cynllun Cyflawni Genomeg Cymru, yn dangos sut y gall y GIG fanteisio ar y chwyldro genomeg ym maes gofal iechyd.

Genomeg yw gwyddor genynnau a gwybodaeth enetig.

Mae’r defnydd o genomeg ym maes gofal iechyd wedi ehangu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan arwain at ganfod clefydau’n gynnar a’u hatal, triniaethau newydd a meddyginiaethau wedi’u personoli.

Uchelgeisiau

Ymhlith yr uchelgeisiau a nodir yn y cynllun y mae:

  • Cynnig profion genomig a chymorth mwy helaeth i gleifion yr amheuir bod ganddynt glefyd prin ac ar gyfer mathau penodol o ganser, drwy gynyddu nifer y genomau a gaiff eu dilyniannu bob blwyddyn o 240 i 3,000 y flwyddyn o fewn y tair blynedd nesaf.
  • Cynnig hyd at 5,000 o broffiliau profion genomig helaeth bob blwyddyn i gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser er mwyn gwella prosesau rhoi diagnosis a chyfraddau goroesi.
  • Creu Canolfan Genomeg Cymru werth £15m.
  • Cryfhau gwyliadwriaeth genomig o bathogenau er mwyn helpu i atal clefydau trosglwyddadwy a mynd i’r afael â nhw, gan gynnwys y bygythiad o bandemigau newydd.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf, yn ogystal â chynnal mwy o brofion genomig a sicrhau rhagor o waith dilyniannu yng Nghymru, un o’r blaenoriaethau yn y Cynllun Cyflawni yw cynnig biopsïau hylif anfewnwthiol yn amlach ar gam cynharach yn y llwybr canser er mwyn cyfrannu at driniaethau wedi’u personoli a gwella canlyniadau.

‘Buddion gwirioneddol i gleifion’

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan: “Mae genomeg yn gweddnewid ein ffordd o feddwl am ofal iechyd, ac mae eisoes wedi effeithio ar sut rydyn ni’n darparu llawer o wasanaethau.

“Bydd y cynllun hwn yn ein rhoi mewn sefyllfa i allu defnyddio genomeg i drawsnewid sut y byddwn ni’n darparu gofal iechyd yn y dyfodol.

“Drwy baratoi nawr, bydd Cymru’n barod pan fydd genomeg yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin yn ein gwasanaeth iechyd.

“Mae rôl genomeg ym maes gofal iechyd wedi cynyddu’n gyson ers y pandemig. Mae mabwysiadu’r technolegau newydd hyn eisoes wedi arwain at fuddion gwirioneddol i gleifion.

“Mae wedi rhoi inni ddealltwriaeth fwy manwl o lawer o’r pethau sy’n achosi salwch a chlefydau heintus, ac mae’n sail i ddatblygu ymyriadau newydd na fyddai neb wedi dychmygu eu defnyddio degawd yn ôl.”

‘Darparu gofal iechyd mewn ffordd hollol wahanol’

Dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething, sy’n gyfrifol am wyddoniaeth yn Llywodraeth Cymru: “Dros amser, mae gwyddoniaeth wedi chwarae rôl hollbwysig yn y gwaith o drawsnewid meddygaeth fodern.

“Heddiw, rydyn ni’n darparu gofal iechyd i bobl mewn ffordd hollol wahanol i’r ffordd roedden ni’n arfer darparu gofal, hyd yn oed 20 mlynedd yn ôl.

“Mae hyn wedi helpu i achub bywydau di-rif.

“Oherwydd y cynnydd a wnaed gan wyddonwyr o ran deall y cod genomig, mae clinigwyr yn fwy tebygol o allu canfod achosion lle’r amheuir clefydau prin yn gynnar a chynnig triniaethau sydd wedi’u personoli’n fanwl sy’n achub bywydau.

“Rwy’n falch bod Cymru yn bwrw ymlaen â’r cynllun uchelgeisiol hwn, a fydd yn rhoi cyfle i GIG Cymru wella iechyd a llesiant pobl ymhellach ym mhob cwr o’r wlad.”