Does dim modd “gorbwysleisio arwyddocâd” canfyddiadau adroddiad sy’n edrych ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

Mae annibyniaeth i Gymru’n opsiwn cyfansoddiadol “ymarferol” i Gymru yn y dyfodol, yn ôl adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Sefydlwyd y Comisiwn, a gadeiriwyd gan gyn-Archesgob Cymru Rowan Williams, a’r Athro Laura McAllister, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, gan y Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021. Y bwriad yw ystyried a datblygu opsiynau ar gyfer diwygio cyfansoddiadol sylfaenol y Deyrnas Unedig ynghyd â phrif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru.

Daeth ei adroddiad interim, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher, 7 Rhagfyr), i’r casgliad “nad oedd y status quo” neu “ddadwneud datganoli” yn sail “ddibynadwy” nac yn “gynaliadwy” ar gyfer Llywodraethu Cymru yn y dyfodol.

“Trefniadau datganoli presennol yn anghynaladwy”

Mae “trefniadau datganoli presennol yn anghynaladwy”, yn ôl Adam Price.

Serch hynny, mae’n derbyn “na fydd annibyniaeth yn digwydd dros nos”.

“Ni ellir gorbwysleisio arwyddocâd hyn,” meddai.

“Mae trefniadau datganoli presennol yn anghynaladwy ac ni allant bara. Mae ffederaliaeth yn dead-end.

“Mae Plaid Cymru’n credu mai dim ond annibyniaeth all gyflawni’r dyfodol economaidd mwy gwyrdd, a chryfach, a’r tegwch y mae cymunedau Cymru eu hangen ac yn eu haeddu.

“Dyna pam yr ydym heddiw yn cyhoeddi ein tystiolaeth i’r comisiwn yn llawn – sy’n amlinellu datblygiad ym meddylfryd Plaid Cymru ar annibyniaeth ac yn gwneud cynigion ar gyfer Senedd sofran fel cam dros dro tuag at annibyniaeth, ar ffurf Cymdeithas Rydd Cymru.

“Rydym eisiau sicrhau annibyniaeth cyn gynted ag y gallwn.

“Fodd bynnag, rydym yn cydnabod na fydd annibyniaeth yn digwydd dros nos.

“Fel gyda’n profiad ni o ennill y refferenda i sefydlu a chryfhau ein Senedd, byddwn yn adeiladu’r ffordd i annibyniaeth gyda’r adnoddau gwleidyddol sydd ar gael, boed nhw’n adeiladu blociau, cerrig camu neu bontydd.”

‘Byddai annibyniaeth yn golygu aflonyddwch’

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi croesawu’r adroddiad ond fe rybuddiodd Jane Dodds y byddai’r syniad o annibyniaeth yn golygu aflonyddwch economaidd difrifol i bobl Cymru:

“Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cytuno nad yw’r sefyllfa Lywodraethu bresennol yng Nghymru yn gynaliadwy ac nad yw’n cyflawni’n ddigon da i bobl Cymru.

“Rydym yn cytuno â’r adroddiad bod y setliad presennol yn ansefydlog, gyda datblygiadau diweddar yn dangos pa mor fregus yw’r sefydliadau datganoledig i benderfyniadau unochrog sy’n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU.

“Mae ein plaid wedi cefnogi Deyrnas Unedig Ffederal ers tro lle mae cenhedloedd y DU mewn undeb o bartneriaid gwleidyddol cyfartal ac rydym yn falch o weld bod y Comisiwn yn hyrwyddo’r ymagwedd hon fel un o’r opsiynau arfaethedig.

“Mae ffederaliaeth yn gweithio mewn gwledydd fel Awstralia a Chanada, does dim rheswm pam na allai weithio yn y DU yn y dyfodol.”

Ychwanegodd: “Dydyn ni fel rhyddfrydwyr ddim yn credu mewn codi mwy o ffiniau cenedlaethol, creu rhaniadau pellach a chyfyngu ar ryddid i symud. Byddai’r syniad o annibyniaeth yn golygu aflonyddwch economaidd difrifol i bobl Cymru, yn anad dim y degau o filoedd o bobl sy’n croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr bob dydd, i’r ddau gyfeiriad, am waith neu ddim ond i fyw eu bywydau bob dydd.

“Byddai’r aflonyddwch a achosir gan yr opsiwn hwn yn gwneud i Brexit edrych fel taith gerdded yn y parc o’i gymharu.

“Byddwn yn parhau i frwydro dros Gymru wedi’i grymuso mewn Deyrnas Unedig ddiwygiedig, fwy cyfartal.”

‘Gwastraffu amser’

Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig na ddylai’r Llywodraeth Lafur “fod yn gwastraffu amser ac adnoddau ar gomisiwn fel hwn, yn enwedig pan mai dim ond yr wythnos diwethaf wnaethon nhw wrthod ymchwiliad annibynnol eto i’r modd wnaethon nhw ddelio â phandemig Covid-19.

“Mae’n bwysig nodi bod Llywodraeth Cymru yn marcio eu gwaith cartref, gyda phob aelod o’r comisiwn wedi’i benodi gan Lywodraeth Cymru, yn wahanol i gomisiynau blaenorol fel Silk.

“O ganlyniad i Brexit, mae mwy na 70 o feysydd cyfrifoldeb newydd wedi’u datganoli i’r Senedd. Mae’r setliad datganoli presennol yn rhoi digon o bwerau i’r Llywodraeth Lafur wella cyflwr yr economi, addysg a’r gwasanaeth iechyd.

“Byddai unrhyw ddatganoli pellach o bwerau yn tynnu sylw’r Llywodraeth Lafur. Dylai eu ffocws fod ar ddefnyddio’r pwerau digonol sydd ganddynt yn awr i wella eu record gyda Chymru â’r amseroedd aros gwaethaf yn y DU, y canlyniadau TGAU isaf a siawns 50/50 y bydd ambiwlans yn cyrraedd mewn pryd.”