Mae arwyddion positif yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad wedi eu hanwybyddu, yn ôl Dyfodol i’r Iaith.
Datgelodd canfyddiadau’r cyfrifiad ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 6) fod canran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng i 17.8% dros y degawd diwethaf, yn ôl y cyfrifiad. Dyma’r ganran isaf i gael ei chofnodi mewn cyfrifiad erioed.
Roedd y ganran yn 2011 yn 19.0% – erbyn 2021 roedd hynny wedi gostwng i 17.8%, sef gostyngiad o 1.2%.
Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, dywedodd 538,300 o bobl tair oed neu’n hŷn yng Nghymru eu bod yn gallu siarad Cymraeg, o’i gymharu â 562,000 yn 2011.
Mae hyn yn ostyngiad o tua 23,700 o bobl ers Cyfrifiad 2011.
“Sylw negyddol”
Fodd bynnag, mae Dyfodol yr Iaith yn credu y dylid ymfalchïo yn y ffaith fod yna dwf wedi bod ym mhob sir yng Nghymru ond pedair, yn ogystal â’r twf o 3,100 ymysg pobl 20-44 oed ar draws y wlad, o 15.6% i 16.5%.
Mae’n debyg mai un o’r prif ffactorau sydd wedi cyfrannu at y gostyngiad cyffredinol oedd y gostyngiad yn nifer y plant a phobl ifanc rhwng tair a 15 oed oedd yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
Yn ôl Cyfrifiad 2021, y ganran o bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg oedd yr isaf i’w gofnodi mewn cyfrifiad erioed.
Roedd gostyngiad o 6% mewn plant rhwng 5 a 15 oed oedd yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021. Bu gostyngiad tebyg ar gyfer plant 3 i 4 oed.
“Mae’r sylw negyddol ar y cyfan yn deillio o gwymp yng nghanran y rhai 3-15 yr honnir eu bod yn siarad Cymraeg,” medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.
“Mae’r canrannau hyn yn fwy o ddehongliad rhieni o allu eu plant nag o wir allu i siarad Cymraeg.”
‘Cadarnhaol’
Tynnodd Dyfodol yr Iaith sylw at y cynnydd a fu yn y rhai 16-64 oed sy’n siarad Cymraeg.
Ychwanegodd Heini Gruffudd: “Mae’r twf yn eithaf cadarnhaol, o wybod bod patrymau allfudo a mewnfudo’n milwrio yn erbyn y Gymraeg.
“Mae’r twf yn arwydd bod ysgolion Cymraeg yn sicrhau nifer cynyddol o siaradwyr Cymraeg.
“Mae angen rhaglen gyflawn o weithredu cymunedol ledled y wlad, gan gynnwys datrys yr argyfwng tai, hyrwyddo’r Gymraeg yn y cartref ac yn y gymuned, ynghyd â sicrhau twf cyflym addysg Gymraeg a dysgu’r Gymraeg i oedolion.
“Yn y pen draw mae mwynhau defnyddio’r Gymraeg yn bersonol ac yn gymunedol yn allweddol, ac mae angen rhoi sylw i’r negeseuon cadarnhaol.”