Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud eu bod wedi anfon neges glir at Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad ddoe.

Roedd yn dangos bod canran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng i 17.8% dros y degawd diwethaf. Roedd hyn yn ostyngiad o 1.2%.

Dywedodd y mudiad iaith bod “rhaid newid gêr ar frys” a bod gosod nod o Addysg Gymraeg i Bawb yn hanfodol er mwyn atal dirywiad y Gymraeg.

Dros nos (Nos Fawrth, Rhagfyr 6) bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn codi posteri a chwistrellu’r neges “Llywodraeth Cymru: Gweithredwch” ar adeiladau’r Llywodraeth yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Chyffordd Llandudno.

Neges gan Gymdeithas yr Iaith ar adeilad y Llywodraeth yn galw am weithredu

‘Y Llywodraeth heb weithredu’

Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas: “Mae’r Llywodraeth wedi datgan bwriad i anelu am filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond heb weithredu ar hynny.

“Mae sylwadau Mark Drakeford am addysg Gymraeg heddiw yn bwrw amheuaeth am y math o Ddeddf Addysg a gawn. Ac mae mesurau i fynd i’r afael â phroblemau tai wedi eu cyfyngu i ail dai a thai gwyliau, yn hytrach na chyflwyno Deddf Eiddo fyddai’n rheoleiddio’r farchnad dai, fel bod tai yn fforddiadwy ar gyflogau lleol ac felly yn galluogi pobl i aros yn eu cymunedau.

“Ein galwad ni felly yw ei bod hi’n bryd i’r Llywodraeth weithredu.”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar bobl o bob rhan o Gymru i ymuno â’r alwad trwy ddod i rali Nid yw Cymru ar Werth Llanrwst ar Ragfyr 17 ac i Rali’r Cyfri yng Nghaerfyrddin ar Ionawr 14.