Mae Cyngor Sir Powys wedi cefnogi’r alwad i gyflwyno ardoll ar ynni a dŵr sy’n cael ei gludo o Bowys i rannau eraill o Gymru.

Bwriad y cynllun arfaethedig yw rhoi hwb i goffrau’r Cyngor Sir.

Cafodd y syniad ei gyflwyno mewn cynnig gan y Cynghorydd Jake Berriman o’r Democratiaid Rhyddfrydol, a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Morgan.

Roedd y Ceidwadwyr wedi gwrthwynebu’r cynnig, ond fe gafodd ei basio o 40 o bleidleisiau i 19.

Mae nifer o gronfeydd dŵr a llynnoedd ym Mhowys sy’n darparu dŵr ar gyfer rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ac mae nifer o safleoedd ynni adnewyddadwy a ffermydd gwynt yno a rhai eraill ar y gweill hefyd.

‘Mae’r byd yn newid’

“Ar gefn uwchgynhadledd yr hinsawdd COP27 yn yr Aifft, a datganiad Powys o argyfyngau hinsawdd a natur, mae’r Cyngor hwn wedi galw ar Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru i roi yn eu lle y fframweithiau a darpariaethau deddfwriaethol angenrheidiol i alluogi pobol Powys i gadw peth o’r buddiannau ariannol sy’n codi o’r adnoddau dŵr ac ynni sy’n cael eu hallforio o Bowys i’w prynu mewn llefydd eraill,” meddai Jake Berriman.

“Ddylai cyfradd yr elw ar gyfer defnydd ar y cyd o’r adnoddau hyn yn y lle cyntaf ddim bod yn llai na £1 y mega litr a £1 y megawatt, gan gynyddu ar sail cyfradd flynyddol chwyddiant.

“Yn ein ras i achub y blaned ac i gyrraedd sero-net, mae’r byd yn newid.

“Os ydym am gyflawni’r trawsnewidiad cyfiawn i sero-net, mae hi ond yn ymddangos yn deg fod cymunedau ym Mhowys yn elwa ar y defnydd o adnoddau naturiol lleol.

“Yn y lle cyntaf, gallai’r incwm sy’n deillio o’r fath ardoll gael ei ddefnyddio i helpu i dalu am ôl-insiwleiddio adeiladau cyhoeddus ledled Powys ac yn y dyfodol mwy hirdymor, gallai ddarparu ffynhonnell o incwm i gefnogi cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus.

“Roedd hi’n destun siom gweld nad oedd y Ceidwadwyr yn cefnogi’r syniad o rywfaint o’r elw o werthu ynni a dŵr ym Mhowys yn aros yn y gymuned.

“Gobeithio y bydd Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru’n gwrando ar lais Cyngor Powys heddiw ac yn ystyried ein cais.”