Mae’n rhaid i Gymru “feddwl beth sy’n mynd i gymryd lle’r status-quo”, yn ôl Leanne Wood, un o aelodau’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Comisiwn – sy’n cael ei gyd-gadeirio gan yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams – wedi bod yn casglu tystiolaeth ynghylch sut mae Cymru yn cael ei llywodraethu ar hyn o bryd.

Cafodd canfyddiadau adroddiad interim ar waith y Comisiwn ei gyhoeddi ddydd Mawrth (Rhagfyr 6).

Daeth y Comisiwn i’r casgliad fod yna “broblemau sylweddol gyda’r ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu ar hyn o bryd” fel rhan o’r Deyrnas Unedig.

Mae’r grŵp o 11 o aelodau’r Comisiwn – gan gynnwys Leanne Wood – wedi bod yn siarad â thros 2,000 o unigolion, grwpiau arbenigol a sefydliadau.

Yn eu hadroddiad, mae’r Comisiwn yn dadlau nad yw’r sefyllfa bresennol yn opsiwn ymarferol ar gyfer darparu sefydlogrwydd a ffyniant i Gymru.

‘Adeg dda i edrych ar ein trefniadau cyfansoddiadol’

Yn ôl Leanne Wood, dydy setliad cyfansoddiadol presennol Cymru “ddim yn addas ar gyfer ei bwrpas”.

“Mae’n bwysig oherwydd mae’r ffordd mae datganoli wedi datblygu yng Nghymru wedi bod ar hap braidd,” meddai wrth golwg360.

“A’r hyn sydd gennym ni yw setliad sydd ddim yn addas ar gyfer ei bwrpas.

“Mae’r adroddiad interim yn nodi fod yna ddeg pwynt sy’n rhoi pwysau ar y setliad presennol ac mae’n dangos na all y status-quo barhau.

“Felly mae’n rhaid i ni feddwl beth sy’n mynd i gymryd lle’r status-quo.

“Y peth arall i’w ystyried yw fod y tirwedd gwleidyddol wedi newid yn sylweddol ar draws ynysoedd Prydain ers Brexit ac fe allai fynd ar drywydd tuag at annibyniaeth yn y dyfodol.

“Fe allai datblygiadau yn Iwerddon a’r Alban effeithio arnom.

“Felly, y cwestiwn i ni yma yng Nghymru yw beth wnawn ni o dan yr amgylchiadau hynny? I le’r ydyn ni’n mynd? Beth yw’r setliad gorau i ni?

“Ac mae’n bwysig ein bod ni’n ystyried beth yw’r setliad gorau i ni waeth beth sy’n digwydd mewn llefydd eraill oherwydd mae’n rhaid i ni benderfynu ar ein dyfodol ein hunain.

“Ond rydyn ni, wrth reswm, yn cael ein dylanwadu gan yr hyn sy’n digwydd o’n cwmpas ni.

“Felly dw i’n credu fod nawr yn adeg dda i edrych ar ein trefniadau cyfansoddiadol.”

Manteision ac anfanteision

Gyda’r adroddiad interim wedi nodi tri llwybr cyfansoddiadol o ran sut gellid rheoli Cymru – sef cryfhau a diogelu’r setliad datganoli presennol, creu dull ffederal gyda chyfansoddiad newydd ar gyfer y Deyrnas Unedig, neu annibyniaeth – mae Leanne Wood yn awyddus i ymchwilio manteision ac anfanteision yr opsiynau ymhellach.

“Wel, mae’r adroddiad interim wedi nodi bod tri llwybr cyfansoddiadol o ran sut gellid rhedeg Cymru ac annibyniaeth yw un o’r rheiny,” meddai.

“Rydyn ni nawr eisiau canolbwyntio ar y tri opsiwn yna a gwneud y gwaith sy’n galluogi pobol i weld beth sydd ar gael a beth yw’r dystiolaeth.

“Mae gan bob un o’r opsiynau eu manteision ac anfanteision, a gyda lwc fe fydd pobol yn gallu gwneud penderfyniad mwy gwybodus o ran pa gyfeiriad maen nhw eisiau i Gymru fynd iddo yn y dyfodol, ar ôl darllen yr adroddiad terfynol.

“Serch hynny, mae’n anodd darogan beth fydd yn yr adroddiad terfynol cyn i ni wneud y gwaith.”

‘Mater cymhleth’

Un o’r cwestiynau sy’n cael ei godi yn yr adroddiad interim yw: ‘Pa opsiynau cyfansoddiadol, os o gwbl, fyddai’n ein galluogi i ddod yn wlad fwy llewyrchus a gwella bywydau pobol Cymru?’

Ond sut yn union mae mynd ati i gael atebion i gwestiynau o’r fath?

“Dw i’n meddwl ei fod e’n ymwneud â dechrau drwy ofyn lle mae problemau pobol,” meddai Leanne Wood.

“Yna, fe alli di edrych ar le mae’r problemau o ran canfod datrysiadau i’r problemau hynny yn deillio.

“Mae e’n fater cymhleth, dydy pobol yn aml ddim yn gwybod ai’r Cyngor neu’r Senedd neu San Steffan sy’n gwneud y penderfyniadau.

“Dydy ein fframwaith cyfansoddiadol ddim yn glir, felly mae yna waith i’w wneud i sicrhau bod pobol yn deall beth rydyn ni’n sôn amdano.

“Serch hynny, dw i yn meddwl bod yna welliant wedi bod yn nealltwriaeth pobol o le mae penderfyniadau yn cael eu gwneud ers Covid.

“Dw i’n cofio arolwg yn 2014 yn canfod fod oddeutu 40% o bobol Cymru yn credu bod penderfyniadau o ran iechyd yn cael eu gwneud yn San Steffan.

“Felly dw i’n credu bod hynny wedi newid.

“Ond mae’n rhaid i ni sicrhau bod pobol yn cysylltu’r cwestiynau gwleidyddol dyddiol hynny yn ôl i’r cwestiwn cyfansoddiadol.”

‘Lot fawr o waith dal angen ei wneud’

Roedd ymateb cryf i ganfyddiadau’r adroddiad interim, gyda YesCymru yn datgan ei fod yn “gam enfawr” tuag at annibyniaeth, tra bod Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, o’r farn nad oes modd “gorbwysleisio ei arwyddocâd”.

Fodd bynnag, mae Leanne Wood o’r farn fod angen “pwyllo am y tro”.

“Wel, dyma’r tro cyntaf mae’r cwestiwn annibyniaeth wedi cael ei ystyried gan gomisiwn annibynnol sy’n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth,” meddai.

“Felly mae e’n arwyddocaol, mae’r cwestiwn ar yr agenda mewn ffordd nad ydyw e wedi bod o’r blaen.

“Mae yna lot fawr o waith dal angen ei wneud, dydyn ni ddim eisiau mynd o flaen gofid.

“Fe fydd yn rhaid i’r comisiwn gasglu llawer iawn mwy o dystiolaeth er mwyn cefnogi rhai o’r honiadau sydd wedi cael eu gwneud.

“Fe fydd craffu trylwyr ar yr holl opsiynau cyfansoddiadol sydd wedi cael eu crybwyll.

“Felly, dw i o’r farn fod angen pwyllo am y tro.

“Mae e i gyd yn dibynnu ar y dystiolaeth, allwn ni fel comisiwn ddim ond ystyried a dadansoddi’r dystiolaeth rydyn ni’n ei chasglu.

“Mae’n rhaid i ni fynd yn ddyfnach nawr.

“Rydyn ni wedi cyflwyno adroddiad cyffredinol; nawr mae angen i ni edrych yn fanwl ar y tri opsiwn cyfansoddiadol.”