Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau bod gwaith i edrych ar y posibilrwydd o sefydlu addysg Gymraeg mewn lleoliad newydd yng nghanol y sir wedi dod i ben.

Mae Cyngor Sir Powys wedi ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu addysg Gymraeg yn adeilad presennol Ysgol Gynradd Llanfihangel Rhydeithon yn Nolau ger Llandrindod.

Elfen bwysig o’r gwaith oedd ymgynghori â rhieni’r ardal i gael eu barn nhw ar y posibilrwydd o gael addysg Gymraeg yn Nolau, ynghyd â chael astudiaeth ddichonoldeb.

Yn seiliedig ar y canfyddiadau, cyngor swyddogion yw nad yw sefydlu addysg Gymraeg yn Nolau yn ymarferol.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i wella mynediad at addysg Gymraeg, ond cafodd pryderon eu mynegi nad Dolau yw’r lle mwyaf addas yn strategol i sicrhau twf addysg Gymraeg, a hynny gan fod yr ysgol mor fach.

Mae rhieni sydd am weld eu plant yn derbyn addysg Gymraeg yn yr ardal yn gallu eu hanfon nhw i Ysgol Trefonnen neu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaeadr Gwy, a bydd y disgyblion hynny’n gallu cael cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol Gymraeg agosaf.

Bydd y Fforwm Addysg Gymraeg yn trafod yr astudiaeth ddichonoldeb a chanfyddiadau’r holiadur ddydd Llun (Rhagfyr 12) ac ym Mhwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau ddydd Mercher (Rhagfyr 14), cyn mynd gerbron y Cabinet ar ddydd Mawrth, Rhagfyr 20.

Y cam nesaf

“Cyn yr etholiad fe wnes i alw am ddadansoddiad o’r posibilrwydd o ddefnyddio safle Dolau fel ysgol Gymraeg newydd yn Nwyrain Maesyfed,” meddai’r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy’n Dysgu.

“Ar ôl yr etholiad, mae’r Cabinet newydd wedi gohirio’r cynnig i gau Ysgol Gynradd Llanfihangel Rhydeithon am 12 mis tan 31 Awst 2023 er mwyn gallu trafod y cynnig yn drwyadl ac i beidio colli cyfle i ddatblygu’r iaith.

“Erbyn hyn mae’r gwaith hwn wedi dod i ben a hoffem ddiolch i bawb a ymatebodd i’r holiadur.

“Bydd y Cabinet nawr yn trafod canfyddiadau’r astudiaeth a’r atebion i’r holiadur a chyngor swyddogion, yn ogystal â sylwadau’r Fforwm Addysg Gymraeg a’r Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau cyn dod i benderfyniad.”