Mae helynt o’r newydd yn ymwneud â chanlyniadau BTEC myfyrwyr yng Nghymru’n “dwysáu’r profiad annifyr ac anhrefnus i fyfyrwyr” yn dilyn sefyllfaoedd tebyg o ran canlyniadau TGAU a Safon Uwch, yn ôl undeb NEU Cymru.
Daw ymateb yr undeb wrth i dad myfyriwr o Went feirniadu’r penderfyniad, gan ddweud bod ei fab yn teimlo’n “eilradd” i fyfyrwyr eraill.
Fe ddaeth i’r amlwg fod bwrdd arholi Pearson wedi penderfynu ar noswyl cyhoeddi’r canlyniadau na fyddai myfyrwyr BTEC yn derbyn eu canlyniadau heddiw (dydd Iau, Awst 20).
“I ychwanegu at y ffiasgo TGAU a safon uwch, mae’r penderfyniad gan Pearson i beidio â chyhoeddi canlyniadau BTEC ar yr unfed awr ar ddeg yn dwysáu’r profiad annifyr ac anhrefnus i fyfyrwyr,” yn ôl David Evans, Ysgrifennydd Cymru undeb yr NEU.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio’n gyflym yn awr i sicrhau bod pob person ifanc yn cael y graddau y maen nhw’n eu haeddu er mwyn symud ymlaen i’r camau nesaf yn eu bywydau.
“Mae cwestiynau difrifol yn parhau o ran beth fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf a thu hwnt.
“Rhaid i’r Llywodraeth ac Ofqual ddysgu o 2020 a dechrau gwrando ar y gweithwyr proffesiynol, sydd wedi dweud yn glir iawn nad yw’r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn ddigonol.
“Gyda llawer o fisoedd o ddysgu ar goll i’r myfyrwyr hyn, rhaid lleihau’r cynnwys arholiadau ar gyfer yr haf nesaf ymhellach.
“Heb hyn, bydd yr arholiadau’n fwy o fesur o ba mor hir yr oedd myfyrwyr unigol wedi’u cloi i lawr neu a oedd ganddyn nhw fynediad i ddysgu gartref, yn hytrach na’r hyn yr oedden nhw’n gallu’i wneud.”
Ymateb UCU
Mae angen i’r Llywodraeth ymrwymo i gynyddu cyllid a chapasiti mewn colegau i sicrhau nad yw myfyrwyr sy’n aros am ganlyniadau BTEC yn colli allan, meddai undeb UCU, undeb y prifysgolion a’r colegau.
“Mae myfyrwyr wedi gweithio’n anhygoel o galed mewn amodau anodd eleni,” meddi Jo Grady, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb.
“Ond oherwydd anhrefn y Llywodraeth, bydd myfyrwyr BTEC wedi deffro y bore yma yn disgwyl derbyn eu canlyniadau ond yn cael gwybod fod cwmni preifat wedi eu tynnu’n ôl.
“Mae angen yn awr i’r Llywodraeth drwsio’r llanast hwn er mwyn i fyfyrwyr allu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae angen i ni roi’r gorau i droi addysg yn farchnad, rhoi diwedd ar y diffyg synnwyr o ddarparwyr preifat yn asesu canlyniadau, gan roi myfyrwyr yn gyntaf.
“Os gwelwn gynnydd tebyg yn y cyfraddau llwyddo BTEC fel y gwelsom mewn TGAU, yna bydd llawer mwy o fyfyrwyr yn gallu mynd i’r coleg.
“Mae angen i’r Llywodraeth yn awr ymrwymo i gynyddu cyllid a chapasiti fel nad oes unrhyw fyfyriwr yn cael ei adael ar ôl ac fel y gall colegau groesawu myfyrwyr yn ddiogel yng nghanol pandemig.”
Profiadau myfyriwr
Yn ôl rhiant myfyriwr yng Ngwent sydd wedi methu â chael ei ganlyniadau BTEC, mae ei fab yn teimlo fel “myfyriwr eilradd”.
Mae Caleb Taylor, 19, yn dal i aros i glywed ei ganlyniadau BTEC mewn cyfrifiadura a busnes.
Yn ôl ei dad Richard, dydy e ddim wedi gallu cofrestru ar gyfer cwrs coleg yng Ngwent ar gyfer y flwyddyn nesaf cyn derbyn ei raddau terfynol.
“Dw i’n credu ei fod yn warth,” meddai Richard Taylor wrth y Press Association.
“Mae e’n teimlo fel ei fod e’n fyfyriwr eilradd, a bod BTECs yn cael eu hystyried yn llai pwysig na Safon Uwch oherwydd eu bod nhw wedi cael eu sortio’n olaf.
“Ddylai cymwysterau technegol ddim cael eu hystyried yn llai o beth.
“Mae fy mab yn bryderus iawn oherwydd dydy e ddim yn gwybod beth fydd e’n ei wneud y flwyddyn nesaf.
“Mae e’n bwriadu mynd i’r brifysgol ond mae’n beth da nad oedd e eisiau mynd eleni oherwydd byddai e wedi colli allan ar gael lle.
“Does dim cyfathrebu wedi bod, dydyn ni jyst ddim yn gwybod beth sy’n digwydd.”