Mae dedfrydau oes cyfan yn cael eu cwestiynu ar ôl i farnwr fethu â charcharu brawd bomiwr Arena Manceinion am weddill ei oes am ei fod e’n 21 oed adeg y drosedd.

Mae Hashem Abedi wedi’i garcharu am oes, ond 55 o flynyddoedd oedd yr uchafswm posib yn ôl y gyfraith.

Dywedodd y barnwr Mr Ustus Jeremy Baker y byddai wedi gallu cael ei garcharu am weddill ei oes pe bai’n hŷn, ond mai mater i Senedd San Steffan ei drafod fyddai deddfwriaeth newydd.

Cafodd 22 o bobol eu lladd yn yr ymosodiad yn ystod cyngerdd Ariana Grande ym Manceinion yn 2017, ac fe wnaeth Hashem Abedi helpu ei frawd Salman.

Sylwadau’r barnwr

Dywedodd y barnwr na fyddai wedi oedi cyn cyflwyno dedfryd oes gyfan pe bai’r troseddwr wedi bod yn hŷn.

Mae’n dweud mai dedfryd oes gyfan fyddai’n “gyfiawn” am y drosedd.

Ond yn hytrach, fe gafodd 24 o ddedfrydau oes am 22 o lofruddiaethau, ceisio llofruddio a chynllwynio i achosi ffrwydrad a fyddai’n debygol o beryglu bywydau.

Er mai 55 o flynyddoedd yw hyd y ddedfryd oes, mae’n bosib na fydd e fyth yn cael gadael y carchar, meddai’r barnwr.

Dyma’r ddedfryd fwyaf erioed yng ngwledydd Prydain – 50 o flynyddoedd oedd y record cyn hyn.