Yn ystod cyfarfod llawn Senedd Cymru a gynhelir dros y we heddiw (Awst 26), mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu edrych ar y posibilrwydd o ganiatáu cyfarfodydd dan do mewn canolfannau cymunedol.
“Dros y tair wythnos nesaf byddwn yn treialu digwyddiadau celfyddydol a chwaraeonyn yr awyr agored, gan ddod â hyd at 100 o bobol ynghyd”, meddai Mark Drakeford.
“Byddwn yn edrych ar ffyrdd y gallai cyfarfodydd bach dan do gael eu cynnal, er enghraifft mewn canolfannau cymunedol at ddibenion fel dosbarthiadau colli pwysau a chlybiau llyfrau.
“Byddwn hefyd yn ystyried swyddi sy’n digwydd mewn cartrefi eraill, fel hyfforddiant cerddorol.”
Masgiau mewn ysgolion?
Dywedodd y Prif Weinidog hefyd y byddai’r Llywodraeth yn cyhoeddi diweddariad am wisgo masgiau mewn ysgolion cyn diwedd y dydd (Awst 26).
Yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ddoe (Awst 25) ei fod wedi gofyn am gyngor arbenigol ynghylch a ddylai disgyblion yng Nghymru orfod gwisgo masgiau wrth ddychwelyd i’r ysgol yr wythnos nesaf eglurodd Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau cyson ag awdurdodau lleol, undebau addysgu a’r comisiynydd plant.
“Bydd y dull y byddwn yn ei gymryd yn gyson â’r dull a nodwyd gennym yn ein cynllun cloi lleol a gyhoeddwyd gennym yr wythnos diwethaf”, meddai Mark Drakeford.
“Mae’n bosib felly bydd gan orchuddion wyneb ran i chwarae mewn ysgolion uwchradd mewn cyd-destun lleol, pan fydd niferoedd yn codi, neu pan nad yw rhai adeiladau yn addas i bobol ifanc symud o amgylch yr ysgol yn ddiogel.
“Gan ddilyn y canllawiau yma byddwn yn darparu bydd rhaid i awdurdodau lleol ddewis pa amgylchiadau sydd fwyaf addas.”
Beirniadodd Andrew RT Davies y Prif Weinidog am beidio â gwneud y cyhoeddiad gerbron y Senedd.
“Rwy’n synnu nad ydych wedi cyffwrdd â gorchuddion wyneb mewn lleoliadau addysgol yma heddiw.
Ry’n ni’n clywed y bydd cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw – mae hyn yn sesiwn ffurfiol o’r Senedd, byddwn wedi bod meddwl y byddem fel aelodau wedi cael y cwrteisi gennych o gael clywed yn union beth oedd meddylfryd Llywodraeth Cymru am hyn a byddai hyn yn gyfle delfrydol i chi wneud hynny.”
‘Atal y feirws yn effeithiol’
Unwaith eto pwysleisiodd Mark Drakeford nad oedd y feirws wedi diflannu.
“O ran lledaeniad y coronafeirws, rwy’n falch o allu dweud bod y feirws yn parhau i gael ei atal yn effeithiol yng Nghymru”, meddai’r Prif weinidog.
“Fodd bynnag, fel y bydd yr Aelodau’n gwybod, mae cyd-destun ehangach y DU wedi dod yn fwy heriol, gyda niferoedd cynyddol a chyfyngiadau wedi’u hailosod ar draws ynys Iwerddon, ac yn yr Alban a Lloegr.
“Ond er y datblygiadau calonogol hyn, rhaid i ni barhau i fod yn ofalus.
“Dydy Cymru sicr ddim yn imiwn i’r achosion o drafferthion mewn mannau eraill.”