Mae gwleidyddion wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddefnyddio’r ysbytai maes yng Ngogledd Cymru i leddfu’r pwysau ar y GIG.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n gofalu am oddeutu 22% o boblogaeth Cymru, sydd â’r nifer uchaf o farwolaeth oherwydd Covid-19 yng Nghymru.

Yn ôl y Cynghorydd, Mabon ap Gwynfor, sydd hefyd yn Gadeirydd Cynghrair Iechyd Gogledd Cymru, “mae angen i ni ddatblygu ateb tymor byr i alluogi gwasanaethau iechyd allweddol eraill i weithredu mor normal â phosibl”.

Mae ffigurau gan y Cyngor Iechyd Cymunedol yn dangos bod nifer o gleifion y bwrdd iechyd sy’n aros mwy na 52 wythnos am driniaeth wedi cynyddu pedair gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Diwedd fis Gorffennaf eleni roedd 30,167 yn aros dros 36 wythnos am driniaeth mewn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, o’i gymharu ag 8,900 yn 2019.

Buddsoddwyd £166m yn sefydlu 17 ysbytai maes yng Nghymru – mae’r rhan fwyaf heb eu defnyddio a bellach mae tri ysbyty maes wedi eu dychwelyd i’w defnydd gwreiddiol.

Mae Mabon ap Gwynfor yn awyddus i weld ysbytai maes yn cael eu defnyddio er mwyn darparu “gofal priodol ac amserol” i gleifion.

‘Dau wasanaeth cyfochrog’

Eglurodd Mabon ap Gwynfor nad ydy’r system iechyd yng Nghymru wedi’i chynllunio i redeg dau wasanaeth cyfochrog.

“Ni allwn redeg gwasanaeth iechyd confensiynol ochr yn ochr â gwasanaeth adweithiol sy’n delio ag anrhagweladwyedd a phwysau pandemig firaol”, meddai.

“Mae’n ddigon rhesymol fod adnoddau wedi cael eu targedu i ddelio â’r argyfwng iechyd cyhoeddus digynsail hwn, ond ni all hyn fynd ymlaen am byth.

“Mae gennym ysbytai maes dros dro mewn rhai ardaloedd, sydd heb eu defnyddio i raddau helaeth.

“Dylai’r Bwrdd Iechyd, ar y cyd ag awdurdodau eraill, edrych ar ddefnyddio’r safleoedd hyn i leihau’r risg o’r haint yn cael ei drosglwyddo yn ein hysbytai cyffredinol.”

Ychwanegodd fod angen sicrhau bod cleifion yn derbyn “gofal priodol ac amserol” pan fydd  gwasanaethau yn ailddechrau yn llawn.

Mae Andrew RT Davies, Llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr yn y Senedd, hefyd wedi galw yn ddiweddar am ddefnyddio ysbytai maes yn y gogledd er mwyn lleddfu’r pwysau ar ysbytai.

“Mae rhaid i Lywodraeth Cymru archwilio pob llwybr gan gynnwys defnyddio ysbytai maes Enfys yn y rhanbarth i helpu i leddfu pwysau yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac amddiffyn cleifion”, meddai.

Ysbytai maes Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

  • Ysbyty’r Enfys Glannau Dyfrdwy  – Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy – 436 o welyau
  • Ysbyty’r Enfys Llandudno – Venue Cymru –  351 o welyau
  • Ysbyty’r Enfys Bangor – Prifysgol Bangor – 223 o welyau
  • Ysbyty Spire yn Wrecsam – 19 o welyau

Tawelu meddwl cleifion

Galw am dawelu meddwl cleifion sydd ar restrau aros y mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd:

“Rhaid i’r cleifion hynny sydd ar restr aros hirfaith o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws fod yn dawel eu meddwl bod popeth bellach yn cael ei wneud i gyflymu eu gofal.

“Mae’n ddyletswydd ar y bwrdd iechyd lleol a Llywodraeth Cymru i weithio gydag eraill ac ystyried pob ateb posibl i sicrhau parhad gofal i gleifion ledled gogledd Cymru.”

Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd
Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd

‘Defnydd hyblyg lle bo angen’

Mae’r ysbytai maes wedi dyblu nifer y gwelyau ysbyty yng Nghymru, ond yn ôl Llywodraeth Cymru nid yw’r galw ar ysbytai wedi bod yn fwy na’u capasiti.

“Bydd yr ysbytai maes yn cael eu defnyddio mewn modd hyblyg, lle bo angen, dros y misoedd nesaf, a’r sefyllfa’n cael ei hadolygu”, meddai Llywodraeth Cymru.

Ar ôl i lawdriniaethau a oedd wedi’u trefnu, a gweithgareddau eraill gael eu gohirio yn gynharach eleni mae ysbytai wedi dechrau ailgyflwyno rhai gwasanaethau.

Ddechrau fis Mehefin daeth i’r amlwg mai dim ond Ysbyty Maes Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality, Caerdydd, oedd wedi ei ddefnyddio – cyn cau’r ysbyty maes yn y brif ddinas dros dro.

Yn dilyn hyn croesawodd Ysbyty Maes Caerfyrddin nifer fach o gleifion nad oedd â symptomau Covid-19 er mwyn lleihau’r pwysau ar ysbytai cyfagos – mae’r ysbyty yma bellach wedi dychwelyd i’w defnydd gwreiddiol.

Tra bod ysbyty maes ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei defnyddio gan Wasanaeth Gwaed Cymru i gasglu gwaed.

Ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Eglurodd Dr Kate Clark, Cyfarwyddwr Meddygol Gofal Eilaidd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth Golwg360 fod yr ysbytai yng Ngogledd Cymru wedi ailddechrau rhai o’u gwasanaethau arferol.

“Rydym wedi blaenoriaethu rhestrau aros fel y gallwn gynnig mynediad i gleifion at driniaethau yn nhrefn blaenoriaeth glinigol”, meddai.

“Er bod Covid-19 wedi amharu’n sylweddol ar ein gwasanaethau rydym wedi parhau i flaenoriaethu’r cleifion hynny ar draws Gogledd Cymru sydd angen y gofal mwyaf brys, fel y rheiny sydd angen llawfeddygaeth canser.

“Mae’n bwysig ein bod yn ailddechrau ein gwasanaethau lle y gallwn, ond dim ond lle gellir gwneud hynny’n ddiogel – mae’r firws yn dal i gylchredeg a’n blaenoriaeth yw cadw ein cleifion a’n staff mor ddiogel â phosibl.”

Ychwanegodd Dr Kate Clark fod y Bwrdd Iechyd wedi dechrau defnyddio Ysbyty Spire, Wrecsam, ac eu bod nhw’n parhau i archwilio opsiynau ar gyfer canolfannau eraill.

“Mae ein tri Ysbyty Enfys ar hyn o bryd yn cefnogi’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu ac maen nhw’n dal ar gael ac yn barod i ddechrau derbyn cleifion pan fo angen.”