Mae Cymru yn wynebu gŵyl y banc oer yn dilyn gwyntoedd cryfion Storm Francis.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod llifogydd a thirlithriad wedi cau’r A5 fore Mercher o Fethesda i Fetws y Coed.
Trydarodd Carl Foulkes, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: “Noson brysur iawn i’r heddlu gyda chydweithwyr tân ac awdurdodau lleol i reoli effaith storm Francis.
“Nifer o ffyrdd yn dal ar gau ac rydym yn parhau i fonitro effaith y glaw.
“Mae’n bwysig bod pawb yn aros yn effro ac yn ddiogel.”
https://twitter.com/NWPCCFoulkes/status/1298509753828745216
Mae “rhywfaint o dywydd aflonyddgar” i’w ddisgwyl o ddydd Mercher i ddydd Gwener cyn i bethau ddod yn “sefydlog ond yn fwy oer ar gyfer penwythnos gŵyl y banc,” yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Cyfrannodd gwyntoedd Storm Ellen y gyfran uchaf erioed o bŵer gwynt i’r system drydan wrth i dyrbinau gwynt gyflenwi 59.1% o bŵer Prydain ddydd Sadwrn am 1am, yn ôl y Grid Cenedlaethol.
Dywedodd llefarydd “mae’n golygu bod gwynt yn cyfrannu mwy nag y mae erioed wedi’i wneud”.
Cafwyd gwyntoedd o 75mya yn Llyn Efyrnwy ym Mhowys ddydd Mawrth, sy’n gyfartal â record Cymru, sef gwyntoedd yn Aberdaugleddau ym mis Awst 1979.
Y lle gwlypaf ddydd Mawrth oedd Bethesda, lle cofnodwyd 101mm o law.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cymryd rhan mewn dau chwiliad dŵr ar afon Taf a bu’n rhaid i griwiau tân achub pobl ar eu gwyliau o safle gwersylla sydd wedi dioddef llifogydd yn nhref Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, ar ôl i lefelau afonydd godi yn yr ardal.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod naw o bobl, a dau gi, wedi eu hachub gan bersonél y gwasanaeth.
Hefyd, rhoddwyd triniaeth feddygol i un dyn ac achubwyd 30 o bobl eraill o safle carafannau sydd wedi dioddef llifogydd yn Arberth, tra bod 12 o garafanau hefyd wedi gorfod cael eu symud o’r safle.