Pan awgrymodd y digrifwr Phil Evans wrth ei ffrind Dilwyn Phillips, â’i dafod yn ei foch, y dylen nhw ysgrifennu llyfr jôcs i’r Gwasanaeth Iechyd, prin y byddai’r naill na’r llall wedi dychmygu y bydden nhw’n gweld y gyfrol yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa rai wythnosau wedyn ac yn hedfan oddi ar y silffoedd.

Dim ond tair wythnos gawson nhw gan y cyhoeddwyr i roi trefn ar eu deunydd, a’i osod o fewn y gyfrol newydd sbon Gags for the NHS.