Mae Heddlu’r De wedi rhoi’r gorau i chwilio afon Taf yn dilyn adroddiadau bod pobol wedi mynd ar goll o ddau le ar hyd yr afon.
Roedden nhw wedi bod yn chwilio yn ardaloedd Ffynnon Taf, lle’r oedd adroddiadau bod unigolyn mewn canŵ wedi mynd i drafferthion, a ger Stadiwm Principality lle’r oedd adroddiadau bod rhywun wedi mynd i mewn i’r afon.
Bu’n rhaid achub dynes hefyd o afon Elái yn Lecwydd ar ôl mynd i drafferthion.
Mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, bu’n rhaid achub naw o bobol a dau gi o lifogydd ar wersyll yn Sanclêr.
A bu’n rhaid i un dyn gael triniaeth a 30 o bobol eraill gael eu hachub o wersyll yn ardal Wiseman’s Bridge ger Arberth, wrth i 12 o garafanau gael eu symud oddi ar y safle.
Mae llifogydd hefyd wedi taro yn Llanelli, Castell-nedd, Hendy-gwyn ar Daf a Thonyrefail.
Gwyntoedd cryfion
Roedd rhai o’r gwyntoedd cryfaf yng ngwledydd Prydain heddiw yng Nghymru.
Fe gyrhaeddon nhw gyflymdra o 74m.y.a. yn Llyn Efyrnwy – y cyflymdra mwyaf yn yr ardal hon ers 1994.
Mae Aberdaron wedi profi gwyntoedd o 71m.y.a. – y cyflymdra mwyaf yno ers Awst 1996.
Fe wnaeth Pen-brê brofi gwyntoedd o 68m.y.a.