Mae dyn 36 oed wedi bod gerbon llys i wynebu 94 o gyhuddiadau o droseddau rhyw yn ymwneud â 49 o fechgyn bach.

Aeth David Nicholas Wilson o Swydd Norfolk gerbron ynadon Ipswich, wedi’i gyhuddo o achosi neu annog bechgyn bach i anfon delweddau anweddus ohonyn nhw eu hunain a phlant eraill ato.

Mae oedran y plant yn amrywio o bedair i 14, a’r holl droseddau honedig wedi’u cyflawni rhwng 2016 a 2018.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn mynd gerbron Llys y Goron Ipswich ar Fedi 22.