Mae Ken Owens wedi cyrraedd carreg filltir arbennig – bydd yn chwarae i’r Scarlets am y 250 tro ddydd Sadwrn

Mae Ken Owens hefyd wedi ei benodi’n gapten y Scarlets am y seithfed tymor yn olynol – gan dorri’r record am y nifer fwyaf o dymhorau’n olynol wrth y llyw.

Chwaraeodd Ken Owens i’r Scarlets am y tro cyntaf yn erbyn Northampton Saints yn 2006.

“Efallai fod hi’n amser maith ers i mi wneud fy ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets yn Northampton, ond rwy’n ei gofio fel petai ddoe,” meddai Ken Owens.

“Dw i ddim yn siŵr iawn beth sydd wedi fy nghadw i fynd yr holl flynyddoedd, ond dw i’n ceisio mwynhau’r gêm gymaint ag y gallaf.

“Gobeithio y gallaf barhau i chwarae’n dda a pharhau i chwarae ar y lefel uchaf.

“Mae cymaint o ansicrwydd yn y byd ar hyn o bryd, mae’n rhaid i chi fwynhau a gwneud y gorau o bob eiliad gymaint ag y gallwch.”

Yn ogystal â’i ymddangosiadau i’r Scarlets, mae Ken Owens, sydd yn 33 oed, wedi ennill 77 o gapiau i Gymru, a dau gap i’r Llewod.

Nifer mwyaf o ymddangosiadau i Lanelli:

  1. Phil May – 552
  2. Laurence Delaney – 496
  3. Ray Gravell – 481
  4. Andy Hill – 452
  5. Phil Bennett – 413
  6. Hefin Jenkins – 406

Y Dreigiau yn erbyn y Scarlets

Tîm y Dreigiau

Mae 10 newid i dîm Dean Ryan fydd yn wynebu’r Scalets ddydd Sadwrn:

15 W Talbot-Davies, 14 J Rosser, 13 A Warren, 12 N Tompkins, 11 A Hewitt, 10 S Davies, 9 R Williams (Capten); 1 J Reynolds, 2 E Dee, 3 C Coleman, 4 M Williams, 5 M Screech, 6 A Wainwright, 7 T Basham, 8 H Keddie

Eilyddion: 16 E Shipp, 17 C Maguire, 18 L Brown, 19 J Maksymiw, 20 H Taylor, 21 L Baldwin, 22 A Robson, 23 J Dixon

Tîm y Scarlets

Mae chwech newid i dîm y Scarlets gurodd Gleision Caerdydd y penwythnos diwethaf.

Angus O’Brien sydd yn dechrau fel cefnwr yn lle Leigh Halfpenny, a Kieran Hardy sydd yn dechrau fel mewnwr yn lle Gareth Davies.

15 Angus O’Brien, 14 Johnny McNicholl, 13 Steff Hughes, 12 Johnny Williams, 11 Steff Evans, 10 Dan Jones, 9 Kieran Hardy, 1 Wyn Jones, 2 Ken Owens (Capten), 3 Samson Lee, 4 Jake Ball, 5 Lewis Rawlins, 6 Ed Kennedy, 7 James Davies, 8 Sione Kalamafoni

Eilyddion: 16 Ryan Elias, 17 Phil Price, 18 Javan Sebastian, 19 Josh Helps, 20 Josh Macleod, 21 Dane Blacker, 22 Paul Asquith, 23 Tom Rogers.

Gleision Caerdydd yn erbyn y Gweilch

Gan fod Parc yr Arfau yn cael ei ddefnyddio fel rhan o Ysbyty Calon y Ddraig, bydd Gleision Caerdydd yn wynebu’r Gweilch yn Rodney Parade.

Tîm Gleision Caerdydd

Yn dilyn colled drom yn erbyn y  Scarlets y penwythnos diwethaf, mae 13 newid i’r tîm sy’n cychwyn yn erbyn y Gweilch.

Josh Turnbull a Josh Adams yw’r unig rai i gadw eu llefydd tra bod tra bod Josh Navidi yn capteinio’r rhanbarth am y tro cyntaf ers cael anaf i’w goes yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

12 M Morgan, 14 J Harries, 13 G Smith, 12 M Llewellyn, 11 J Adams; 10 J Tovey, 9 L Williams, 1 C Domachowski, 2 L Belcher, 3 D Arhip, 4 S Davies, 5 J Turnbull, 6 J Turnbull, 7 S Lewis-Hughes, 8 J Navidi (Capten)

Eilyddion: 16 E Lewis, 17 B Thyer, 18 S Andrews, 19 J Ratti, 20 S Moore, 21 L Jones, 22 B Thomas, 23 I Davies

Tîm y Gweilch

Bydd Justin Tipuric yn arwain y Gweilch am yr hanner canfed tro.

Dewi Cross sydd yn cymryd lle George North sydd wedi ei wahardd am 4 gêm am dacl beryglus yn erbyn y Dreigiau’r penwythnos diwethaf.

15 D Evans, 14 Dewi Cross, 13 O Watkin, 12 T Thomas-Wheeler, 11 L Morgan, 10 S Myler, 9 R Webb, 1 R Jones, 2 S Otten, 3 T Botha, 4 B Davies, 5 A Wyn Jones, 6 O Cracknell, 7 J Tipuric (Capten), 8 G Evans

Eilyddion: 16 D Lake, 17 N Smith, 18 N Thomas, 19 A Beard, 20 M Morris, 21 R Morgan-Williams, 22 M Protheroe, 23 K Williams