Mi fydd y pencampwyr Cei Connah yn cychwyn y tymor pêl-droed newydd gyda gêm gartref yn erbyn y Bala, a hynny o flaen camerâu Sgorio.

Bydd gemau cynta’r Cymru Premier yn cael eu chwarae ar ddydd Sadwrn, Medi 12.

Fe enillodd Cei Connah brif gynghrair Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes tros yr Haf, wedi i’r Gymdeithas Bêl-droed orfod defnyddio system bwyntiau i ddarogan y pencampwyr.

Daeth y tymor i ben yn fuan yn y cyfnod clo, a rhoddwyd yr ail safle i’r Seintiau Newydd, gyda’r Bala yn drydydd.

Bydd y Seintiau Newydd yn cychwyn eu hymgyrch i adennill eu coron gyda gêm oddi cartref yn y Barri.

Mae Aberystwyth yn cychwyn gyda gêm gartref yn erbyn Met Caerdydd, Caernarfon yn herio Penybont ar eu tomen eu hunain a’r Fflint gartref yn erbyn y Drenewydd.

Bydd Hwlffordd gartref yn erbyn Derwyddon Cefn.

Mae’r holl gemau yn cychwyn am 2.30 ar b’nawn Sadwrn, Medi 12 – heblaw am Cei Connah v Bala, sy’n cychwyn am 5.45 ac yn fyw ar raglen Sgorio S4C.