Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi cyhoeddi mai Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru fydd yn cadeirio’r adolygiad annibynnol o ddigwyddiadau yn dilyn helynt arholiadau yng Nghymru.
Cyn ymuno â’r Brifysgol Agored bu Louise Casella yn gweithio fel ymgynghorydd rheoli annibynnol a rheolwr dros dro.
Mae hefyd wedi cynghori CBI Cymru, Chwaraeon Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm ac Undeb Myfyrwyr Wrecsam Glyndŵr yn y gorffennol.
‘Dysgu gwersi ar gyfer 2021’
“Bydd yr adolygiad yn ystyried cwestiynau allweddol sydd wedi codi yn sgil y trefniadau a sefydlwyd ar gyfer cymwysterau yr haf hwn, a’r heriau a wynebwyd yn 2020”, meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
“Mae’n hanfodol bod gwersi yn cael eu dysgu yn sgil profiad eleni, er mwyn gallu llunio argymhellion a nodi materion i’w hystyried ar gyfer 2021.
“Bydd yr argymhellion hyn yn canolbwyntio ar anghenion ein dysgwyr a’u cynnydd, ac ar yr angen i barhau i gynnal safonau ac uniondeb y system addysg a chymwysterau yma yng Nghymru.”
‘Archwilio’n fanwl i’r hyn a ddigwyddodd’
“Mae’n anrhydedd i dderbyn gwahoddiad y Gweinidog Addysg i gadeirio’r adolygiad annibynnol i TGAU a Lefelau A yr haf hwn”, meddai Louise Casella.
“Yn anffodus, ni allwn fod yn sicr pa drafferthion pellach a allai fod o’n blaenau o’r pandemig hwn neu hyd yn oed un arall, felly mae’n bwysig ein bod yn dysgu o’r haf.
“Bydd fy adolygiad yn archwilio’n fanwl i’r hyn a ddigwyddodd, ac edrychaf ymlaen at gyflwyno fy nghanfyddiadau ac argymhellion i’r Gweinidog Addysg maes o law.”
Cefndir yr helynt arholiadau
O’r holl raddau Safon Uwch gafodd eu cyhoeddi yn wreiddiol, roedd 42.2% yn is na’r hyn oedd wedi’i gyflwyno gan athrawon.
Yn dilyn beirniadaeth am y ffordd cafodd graddau Lefel A eu cyfrifo, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg byddai graddau TGAU a chymwysterau eraill yn cael eu gosod ar sail asesiad athrawon.
Roedd Plaid Cymru wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i’r helynt arholiadau yng Nghymru.