Mae ymgyrchwyr amgylcheddol o grŵp Extinction Rebellion Bangor yn ymuno gyda changhennau eraill ledled Cymru a Phrydain i ymgyrchu dros y dyddiau nesaf.

Bydd y protestwyr yn galw ar Lywodraeth Prydain i basio Mesur Amgylcheddol ac Ecolegol Brys, a fyddai’n gweddnewid economi Prydain i fod yn un ddi-garbon, medden nhw.

Dywedodd Holly Tomlinson, un o griw Extinction Rebellion Bangor, fod y protestiadau yn amlygu’r brys sydd yna i wneud newidiadau.

“Nid yw ein hachos wedi cael ei anghofio yn sgil y coronafeirws, gan nad yw erioed wedi derbyn digon o sylw,” meddai Holly Tomlinson.

“Os rywbeth, mae ymateb y llywodraeth i’r pandemig wedi amlygu fod posib symud ar frys, ac mae’r arafwch fu yn ymateb y llywodraeth ar ddechrau’r argyfwng coronafeirws yn adlewyrchu’r arafwch sydd dal i fodoli tuag at newid hinsawdd.”

Gorymdeithio

Prynhawn heddiw, (28 Awst) bydd ymgyrch faneri ar hyd yr A55, a bydd grŵp ieuenctid Extinction Rebellion yn pwysleisio’r perygl sydd i’w dyfodol ym Mhorthaethwy am dri y p’nawn

Ddydd Sadwrn (29 Awst) bydd gorymdaith yng Nghastell Caernarfon am 3:30y.h.

“Fel pobol leol rydym yn awyddus i gynnal protestiadau yng ngogledd Cymru er mwyn argyhoeddi’r gymuned am newid hinsawdd, gan ei fod yn fater sydd yn effeithio ar bob man,” meddai Holly Tomlinson.

“Bydd y rhain yn brotestiadau bach, heb fwy na 30 o bobol.”

Bydd yr holl ymgyrchwyr yn parchu rheolau ymbellhau ac yn cadw at ganllawiau diogelwch Covid-19, meddai’r trefnwyr.