Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan y bydd dirwyon llymach i atal digwyddiadau cerddorol heb drwydded yn Lloegr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi yr un peth.

O ddydd Gwener (Awst 28) ymlaen bydd gan yr Heddlu yng Nghymru ragor o bwerau i atal digwyddiadau cerddorol heb drwydded rhag cael eu cynnal yng Nghymru.

Mae digwyddiadau o’r fath eisoes wedi eu gweld yn Aberogwr, ac ym Mae Caerdydd yn ddiweddar.

Os bydd rhywun yn mynd yn groes i’r gwaharddiad newydd gellir ei gosbi drwy euogfarn a dirwy, neu gosb benodedig o £10,000.

‘Peryglu iechyd yn ddiangen’

“Mae ymgynnull yn anghyfreithlon yn peryglu iechyd pobol yn ddiangen”, meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

“Mae’r newidiadau i’r rheoliadau yr ydyn ni’n eu cyflwyno yn rhoi pwerau newydd i’r heddlu i atal y digwyddiadau hyn rhag cael eu cynnal.

“Mae’r ddirwy ddiderfyn neu’r gosb benodedig sylweddol i drefnwyr y digwyddiadau anghyfreithlon hyn yn adlewyrchu’r effaith ddifrifol y gallai’r rhain ei chael o ran iechyd y cyhoedd.”

Pwysleisiodd y Gweinidog Iechyd na ddylai pobol ymgynnull mewn grwpiau o fwy na 30 o bobol yn yr awyr agored na chwrdd o dan do gyda phobol nad ydynt yn rhan o’u haelwyd neu eu haelwyd estynedig.