Gallai’r tân ar drên oedd yn cludo disel modur ac olew nwy losgi am sawl diwrnod.

Dihangodd dau berson yn ddianaf ar ôl datgysylltu’r locomotif o’r wagenni oedd yn llosgi ger Llangennech tua 11.20pm nos Fercher.

Nid yw achos y digwyddiad yn hysbys ar hyn o bryd gydag ymchwilwyr yn gorfod aros i’r tân gael ei ddiffodd.

Mae pryderon hefyd y gallai gollyngiadau disel i afon Llwchwr gerllaw achosi trychineb i’r diwydiant pysgodfeydd cocos lleol.

‘Bang uchel’

Roedd y trên, sy’n eiddo i DB Cargo UK, yn cludo disel rhwng purfa olew Robeston yn Aberdaugleddau a’r derfynfa dosbarthu tanwydd yn Theale, Berkshire.

Dywedodd tystion iddynt glywed bang uchel cyn gweld y tân, a arweiniodd at alw criwiau argyfwng i’r ardal.

Cyhoeddodd swyddogion ddigwyddiad mawr a chnocio ar ddrysau tai o fewn 800 metr i’r digwyddiad, gan ofyn i tua 300 o bobl symud i Ysgol Bryn gerllaw a Chanolfan Gymunedol Llangennech.

Caniatawyd i bobl ddychwelyd i’w cartrefi ar ôl 5am ddydd Iau.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin ei bod yn anodd iawn dweud pryd y bydd y tân yn cael ei ddiffodd oherwydd faint o ddisel sydd ar y safle.

Ychwanegodd y llefarydd: “Allwn ni ddim dweud ie neu na o ran a fydd [yn para] ychydig ddyddiau.”

Dywedodd DC Cargo UK: “Gallwn gadarnhau bod y gyrrwr a’r peiriannydd a oedd ar y trên ar y pryd yn ddianaf, a’u bod yn cael eu cefnogi gan y cwmni.”

Afon Llwchwr

Dywedodd Aneurin Cox, rheolwr digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru, nad oedd yn ddiogel ar hyn o bryd i swyddogion amgylcheddol asesu effaith y gollyngiad disel.

Dywedodd: “O’n gwaith monitro cychwynnol o’r ardal ehangach, mae’n amlwg bod rhywfaint o’r disel eisoes yn mynd i mewn i afon Llwchwr gerllaw.

“Unwaith y bydd yn ddiogel gwneud hynny, byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i asesu’n llawn yr effaith amgylcheddol a chynghori Network Rail pryd fydd y safle’n gallu cael ei lanhau.

“Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i grwpiau pysgota a chocos lleol am y sefyllfa ddiweddaraf.”

Dywedodd llefarydd arall ar ran y corff amgylcheddol fod pryderon y gallai’r gollyngiad ymledu ymhellach i ddyfrffyrdd cyfagos, gan arwain o bosib at gau pysgodfeydd cocos dros dro.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd: “Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chanolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu i ddeall a oes unrhyw oblygiadau o ran diogelwch bwyd.

‘Anarferol iawn’

Dywedodd Sim Harris, rheolwr golygydd Railnews, fod damweiniau tebyg yn ymwneud â threnau cludo nwyddau sy’n cario tanwydd yn “brin iawn”.

Dywedodd wrth PA: “Alla i ddim meddwl am y ddamwain ddiwethaf yn ymwneud â llosgi tanwydd ar drên. Byddai’n rhaid i chi fynd yn ôl i’r Ail Ryfel Byd, lle dechreuwyd tanau gan y gelyn yn gollwng bomiau.

“Alla’ i ddim meddwl am ddigwyddiad blaenorol lle mae’r math hwn o beth wedi digwydd. Mae’n anarferol iawn.”

‘Edrych ar y trên o bellter diogel’

Dywedodd Andy Morgan, Uwcharolygydd Heddlu Trafnidiaeth Prydain, mewn datganiad yn y fan a’r lle fod swyddogion yn cynorthwyo’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd a’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd i gael gwybod beth achosodd y digwyddiad.

Dywedodd: “Rydym wedi parhau i ymateb i’r digwyddiad mawr ar y rheilffordd ger Llangennech drwy gydol y prynhawn yma, ochr yn ochr â llawer o’n partneriaid.

“Mae swyddogion yn cynnal ymholiadau cychwynnol ac maent bellach wedi gallu edrych ar y trên o bellter diogel. Rydym yn aros am ganllawiau pellach ynghylch pryd y bydd yn ddiogel inni gael mynediad llawn i’r safle.

“Unwaith y bydd yn ddiogel gwneud hynny, bydd ein cydweithwyr yn Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn gweithio i asesu’n llawn yr effaith amgylcheddol a chynghori Network Rail pryd fydd y safle’n gallu cael ei lanhau.”

Mae cynghorydd lleol yn Llangennech wedi diolch i’r gwasanaethau brys ac i’r gymuned leol am eu hymdrechion.