Mae’r grŵp protest amgylcheddol ‘Extinction Rebellion’ yn bwriadu targedu meysydd awyr yn ystod penwythnos gŵyl y banc.

Bydd protestiadau yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Llundain, Manceinion, Bryste, a Leeds.

Oherwydd y coronafeirws anogir protestwyr i weithredu’n lleol gan dargedu’r sector hedfan, banciau, y diwydiant tanwydd ffosil a gorsafoedd petrol.

Mae un o gyd-sylfaenwyr y grŵp, Roger Hallam, wedi’i gyhuddo o gynllwynio i achosi niwed troseddol.

Dywedodd Dr Chris Newman, meddyg teulu a sylfaenydd Meddygon sy’n cefnogi Extinction Rebellion, bod y mudiad yn ymwybodol o beryglon iechyd cyhoeddus oherwyd dy coronafeirws.

“Ond dyna pam rydyn ni yma, oherwydd mae newid yn yr hinsawdd yn fater iechyd cymaint ag unrhyw beth arall”, meddai.

“Felly bydd pawb yn gweithio’n galed iawn i ufuddhau i reolau’r Llywodraeth yn ymwneud a phellter cymdeithasol, rydyn ni’n annog pobol i osgoi protestiadau os ydyn nhw’n sâl, neu os yn ynysu.”