Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal yn cael ailddechrau fory (Awst 28).

Ddiwrnod yn gynt na’r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol.

“Bydd y cadarnhad hwn yn newyddion da iawn i gymaint o bobl ledled Cymru”, meddai Vaughan Gething.

“Mae cyfyngu ar ymweliadau â chartrefi gofal wedi bod yn gwbl angenrheidiol i ddiogelu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau rhag effeithiau niweidiol COVID-19 ond rydym yn llwyr werthfawrogi’r effaith y mae hyn wedi’i chael ar breswylwyr a’u hanwyliaid.

“O ystyried y manteision i les preswylwyr, rwy’n gobeithio y gall llawer o gartrefi ddiweddaru eu gweithdrefnau yn gyflym i allu cynnal ymweliadau dan do yn ddiogel.

‘Bod yn amyneddgar’

Ond pwysleisiodd y Gweinidog eto mai canllaw yw’r dyddiad ailagor ac mai penderfyniad pob sefydliad unigol yw pryd yn union y bydd modd iddynt ail ddechrau ymweliadau.

“Rwy’n gwerthfawrogi’r pryder a fydd gan rai darparwyr ynghylch y newid arwyddocaol hwn, ac y gall fod angen ychydig mwy o amser ar rai i roi trefniadau ar waith”, meddai Vaughan Gething.

“Byddwn i’n annog teuluoedd a chyfeillion i fod yn amyneddgar wrth i gartrefi ddechrau gweithio drwy’r ystyriaethau ymarferol i hwyluso ymweliadau dan do unwaith eto.”

Mae’r newid hefyd yn berthnasol i hosbisau a llety diogel i blant a phobl ifanc.