Mae’r Swistir, Jamaica a’r Weriniaeth Tsiec wedi cael eu tynnu oddi ar restr eithrio rhag cwarantîn Llywodraeth Prydain oherwydd cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.
Cyhoeddodd Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, y bydd angen i deithwyr sy’n cyrraedd Lloegr o’r gwledydd hynny ar ôl 4am ddydd Sadwrn hunanynysu am 14 diwrnod.
Dywedodd Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd mesurau cyfatebol yn cael eu rhoi ar waith yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a’r Alban.
Tynnodd yr Alban y Swistir oddi ar ei rhestr yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn datganiad: “Mae heintiau Covid-19 ar gynnydd ledled Ewrop.
“Mae’r Llywodraeth wedi gwneud yn glir yn gyson y bydd yn cymryd camau pendant os oes angen […] gan gynnwys tynnu gwledydd oddi ar y rhestr coridorau teithio yn gyflym, os bydd y risg i iechyd y cyhoedd […] yn mynd yn rhy uchel.”
Cymru’n cadarnhau’r newid
Mewn datganiad ysgrifenedig, cadarnhaodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, y newid a chyhoeddi bod Ciwba a Singapore wedi’u hychwanegu at restr Cymru o gyrchfannau y gall pobl ddychwelyd ohonynt heb fynd i gwarantin:
“Cefais gyfarfod heddiw gyda Gweinidogion o bob un o bedair llywodraeth genedlaethol y DU i drafod y newidiadau posibl i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. O ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw, rwyf wedi penderfynu ychwangu Cuba a Singapôr at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio, a thynnu’r Weriniaeth Tsiec, Jamaica a’r Swistir o’r rhestr. Yfory byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a fydd yn dod i rym am 04:00 ddydd Sadwrn, 29 Awst.”