Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i dynnu’r canllawiau i wisgo gorchuddion wyneb mewn ysgolion yn ôl.
Nid yw Llywodraeth Cymru am orfodi eu defnydd mewn ysgolion.
Bydd gofyn, felly, gynghorau ac ysgolion benderfynu a fydd rhaid gwisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol ac ar gludiant ysgol.
Mae un cyngor, Cyngor Caerdydd, eisoes wedi “argymell yn gryf bod holl staff a disgyblion ysgolion uwchradd y brif ffrwd yn gwisgo gorchuddion wyneb wrth symud trwy goridorau a mannau cymunedol”. Mae’r Cyngor hefyd wedi dweud y bydd yn cyflenwi dau fasg amldro i bob disgybl ac aelod o staff ysgol uwchradd pan fo’r tymor yn dechrau ym mis Medi.
Llythyr
Fodd bynnag, mae Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford yn galw am gyfarwyddiadau cliriach i ysgolion.
Yn y llythyr mae Adam Price yn dweud bydd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn arwain at “ysgolion ac awdurdodau lleol unigol yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain.”
“Mae yna gryn bryder ymysg y gymuned addysgol yng Nghymru o ganlyniad i’r trywydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn o ran gorchuddion wyneb
“Rwyf yn erfyn arnoch felly i dynnu’r canllawiau dan sylw yn ôl ac ailgyhoeddi cyfarwyddyd newydd, gan roi’r arweiniad cenedlaethol y mae’n cymuned addysgol yng Nghymru yn dyheu amdani.”
Siom undebau addysg
Mae Adam Price hefyd yn tynnu sylw’r Prif Weinidog i sylwadau undeb NAHT Cymru.
“Nid arbenigwyr meddygol mo penaethiaid ac ni ddylai Llywodraeth Cymru eu rhoi mewn sefyllfa o’r fath”, meddai’r Undeb.
“Mae’n hynod o siomedig mai dim ond dau ddiwrnod cyn dechrau’r tymor y daw’r cyhoeddiad yma”, meddai.
“Mae’n siom hefyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi’n orfodol gwisgo gorchuddion wyneb yn ein hysgolion gan ychwanegu cyfrifoldeb ychwanegol ar ein penaethiaid.”
‘Anghysondeb a negeseuon cymysg’
Mae Suzy Davies, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr dros Addysg, hefyd wedi rhannu ei phryder nad oes arweiniad gwahanol ar gyfer ysgolion gwahanol.
Yn ôl Suzy Davies mae cyhoeddiad y llywodraeth yn ychwanegu at yr “anghysondeb a negeseuon cymysg” gan Lywodraeth Cymru ar wisgo gorchuddion wyneb.
Safbwynt y Gweinidog Addysg
Fodd bynnag, mae Kirsty Williams wedi dweud ar Radio Wales bod “pob ysgol uwchradd mewn sefyllfaoedd gwahanol iawn” a bod prifathrawon yn “ddigon galluog” i wneud y penderfyniad.
“Mae’n amhosib, ar hyn o bryd, gyda chyfraddau trosglwyddo yn isel yn y gymuned, i gael un penderfyniad ar gyfer pawb” meddai.
“Dw i’n credu ein bod yn llawer mwy tebygol o gael mwy i gydymffurfio a defnyddio mygydau yn llwyddiannus os ydyn ni’n galluogi’r bobl leol i benderfynu.”