Mewn ymateb i adolygiad y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus ar reoliadau etholiadol mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol wedi gofyn am bwerau ychwanegol i’r Comisiwn Etholiadol ar gyfer sicrhau tegwch, atebolrwydd a thryloywder wrth ymgyrchu ar-lein.
Dywedodd y Gymdeithas fod y rheoliadau, a gafodd eu gosod yn y flwyddyn 2000, wedi dyddio, ac yn annigonol i wynebu heriau ymgyrchu gwleidyddol modern.
Galwodd y Gymdeithas am roi pwerau sancsiynau sifil ychwanegol i’r Comisiwn Etholiadol, ynghyd â chael gwared ar fannau gwan sy’n bodoli dan y system bresennol.
Mae’n tynnu sylw at reolaeth cyllid gwleidyddol, ac yn galw am roi cyfrifoldeb i’r Comisiwn i orfodi cyfreithiau cyllid ar gyfer ymgeiswyr, a phleidiau ac ymgyrchwyr.
Yn trafod yr adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas:
“Mae’n drawiadol bod gennym bellach reoleiddiwr sydd â phwerau sylweddol i ddiogelu preifatrwydd data, ond nid oes pwerau o’r fath wedi’u rhoi i’r rheoleiddiwr sy’n cael eu ymddiried i ddiogelu ein democratiaeth.”
‘Rhoddwyr amheus, hysbysebion tywyll a cham-wybodaeth.’
Yn Hydref 2019 manylodd y Gymdeithas Diwygio Etholiadau ar y mannau gwan yn rheoliadau ymgyrchu gwleidyddol Prydain, gan godi pryderon ynghylch rhoddwyr amheus, hysbysebion tywyll a cham-wybodaeth.
Ymysg y mannau gwan sydd yn cael eu rhestru gan y Gymdeithas, mae’r potensial i wladwriaethau, sefydliadau neu unigolion o dramor ariannu hysbysebion er mwyn dylanwadu ar etholiadau.
Mae’r datganiad, a gafodd ei gyhoeddi heddiw, yn atgyfnerthu’r rhybuddion a roddwyd y llynedd am y peryg fod y rheoliadau yn caniatáu ecsbloetiaeth a chamddefnydd o fewn ymgyrchu gwleidyddol ar-lein.